Mae'r 200 metr yn gamp athletau lle fydd cystadleuwyr yn rhedeg ras sbrint. Mae'r ras yn cael ei rhedeg ar drac awyr agored gan ddechrau ar y gromlin ac yn dod i ben ar yr hyd syth olaf[1]. Mae angen cyfuniad o dechnegau i redeg y ras yn llwyddiannus. Mae'r 200m yn rhoi mwy o bwyslais ar ddygnwch cyflymder na phellteroedd sbrint byrrach wrth i athletwyr ddibynnu ar systemau ynni gwahanol yn ystod y sbrint hirach.
Campau o hyd tebyg
Ras ychydig yn fyrrach, o'r enw'r stadion a oedd yn cael ei redeg ar drac syth, oedd y gamp gyntaf a gofnodwyd yn y Gemau Olympaidd hynafol.[2]
Yng ngwledydd Prydain a llefydd eraill, bu athletwyr yn rhedeg y wib 220 llathen (201.168 m) yn hytrach na'r 200 metr (218.723 llathen) [3], ond mae'r ras yma wedi dod i ben. Yr addasiad safonol a ddefnyddir i drosi amseroedd recordiau dros 220 llath i 200 m yw trwy dynnu 0.1 eiliad, ond mae dulliau trosi eraill yn bodoli
Fersiwn arall a ddaeth i ben oedd y 200 metr ar drac unionsyth. Pan ddechreuodd y Gymdeithas Athletau Amatur Rhyngwladol (a elwir bellach yn Gymdeithas Ryngwladol Cymdeithasau Athletau) i gadw recordiau'r byd yn 1912, dim ond cofnodion a osodwyd ar drac syth oedd yn gymwys i'w hystyried. Yn 1951, dechreuodd yr IAAF gydnabod recordiau a dorrwyd ar lwybr crwm. Ym 1976, cafodd y record syth ei ddileu.
Pencampwyr dwbl
Mae'r ras yn denu rhedwyr o ddigwyddiadau eraill, yn bennaf y 100 metr, sy'n dymuno dyblu a hawlio'r ddau deitl. Cyflawnwyd y gamp hon gan ddynion un ar ddeg gwaith yn y Gemau Olympaidd: gan Archie Hahn ym 1904, Ralph Craig ym 1912, Percy Williams ym 1928, Eddie Tolan ym 1932, Jesse Owens ym 1936, Bobby Morrow ym 1956, Valeriy Borzov ym 1972, Carl Lewis ym 1984, ac yn fwyaf diweddar gan Usain Bolt o Jamaica yn 2008, 2012, a 2016. Mae'r "dwbl" wedi'i gyflawni gan ferched saith gwaith: gan Fanny Blankers-Koen ym 1948, Marjorie Jackson ym 1952, Betty Cuthbert ym 1956, Wilma Rudolph ym 1960, Renate Stecher ym 1972, Florence Griffith-Joyner ym 1988, ac Elaine Thompson yn 2016. Gorffennodd Marion Jones yn gyntaf yn y ddwy ras yn 2000 ond cafodd ei gwahardd yn ddiweddarach a cholli ei medalau ar ôl cyfaddef iddi gymryd cyffuriau gwella perfformiad. Cafodd Dwbl Olympaidd o 200 m a 400 m ei gyflawni gyntaf gan Valerie Brisco-Hooks ym 1984, ac yn ddiweddarach gan Michael Johnson o'r Unol Daleithiau a Marie-José Pérec o Ffrainc ym 1996. Usain Bolt yw'r unig ddyn i'w ailadrodd fel pencampwr Olympaidd, Bärbel Wöckel (née Eckert) a Veronica Campbell-Brown yw'r unig ddwy ferch sydd wedi ailadrodd y gamp fel pencampwyr Olympaidd.
Deiliaid recordiau'r byd
Deiliad record byd y dynion yw Usain Bolt o Jamaica, a fu'n rhedeg 19.19 ym Mhencampwriaethau'r Byd 2009. Deiliad record byd y merched yw Florence Griffith-Joyner o'r Unol Daleithiau, a fu'n rhedeg 21.34 yn Gemau Olympaidd Haf 1988. Y pencampwyr Olympaidd cyfredol yw Usain Bolt ac Elaine Thompson (Jamaica). Pencampwyr y Byd cyfredol yw Ramil Guliyev (Twrci) a Dafne Schippers (yr Iseldiroedd).
Nid yw rasys sy'n cael eu rhedeg gyda gwynt cynorthwyol a fesurir dros 2.0 metr yr eiliad yn dderbyniol at ddibenion cofnodi recordiau.