Yng Nghalendr Gregori mae mis Chwefror yn cynnwys 28 neu 29 o ddyddiau. Er hynny, tair gwaith yn hanes y byd mewn rhai gwledydd, mae ne 30 Chwefror wedi bod.
Sweden
Bwriadai teyrnas Sweden (yn cynnwys Y Ffindir bryd hynny) newid o Galendr Iŵl i Galendr Gregori trwy hepgor y dyddiau naid am 40 o flynyddoedd, yn dechrau yn y flwyddyn 1700. Felly doedd 1700 ddim yn flwyddyn naid yn nheyrnas Sweden, er ei bod yn flwyddyn naid yng ngweddill Ewrop. Yn anffodus, anghofiwyd am y cynllun yn 1704 a 1708 gan eu trin fel blynyddoedd naid. Oherwydd hyn roedd Calendr Sweden diwrnod o flaen Calendr Iŵl ond 10 diwrnod ar ôl Calendr Gregori. Dychwelwyd at Galendr Iŵl yn 1712 trwy gael dau ddiwrnod naid ym mis Chwefror, sef 29 a 30 Chwefror. Cyfatebai 30 Chwefror i 29 Chwefror yng Nghalendr Iŵl ac 11 Mawrth yng Nghalendr Gregori. Llwyddwyd i newid i Galendr Gregori yn 1753.
Yr Undeb Sofietaidd
Yn 1929, dechreuodd llywodraeth yr Undeb Sofietaidd ddefnyddio Calendr Chwyldroadol y Sofiet. Cynhwysai'r calendr 12 'mis gwaith' o 30 diwrnod yr un. Gwyliau achlysurol heb fod yn perthyn i unrhyw fis oedd y 5 neu 6 diwrnod arall yn y flwyddyn. Yn ôl y calendr hwn roedd yna Chwefror 30 yn ystod y blynyddoedd 1930 a 1931. Ar yr un pryd parhawyd i ddefnyddio Calendr Gregori yn yr Undeb Sofietaidd. Er enghraifft, ceir 28 rhifyn o Pravda, sef papur newydd dyddiol swyddogol y blaid gomiwnyddol, ym mis Chwefror 1930 a 1931 a 29 rhifyn yn 1932. Mae hyn yn cyfateb i arfer Calendr Gregori y cyfnod. Yn 1932 dychwelodd yr Undeb Sofietaidd i'r calendr traddodiadol.
Calendr Iŵl cynnar
Honnai'r ysgolhaig Sacrobosco yn y 13g bod gan Galendr Iŵl 30 diwrnod mewn blynyddoedd naid rhwng 45CC a 8CC. Honnai bod Cesar Awgwstws wedi byrhau mis Chwefror, gan ddechrau yn 8CC, er mwyn ymestyn mis Awst (Lladin: Augustus), a enwyd ar ei ôl, i 31 diwrnod. Byddai hyd fis Awst wedyn yn cyfateb â hyd fis Gorffennaf (Lladin: Iulius), a oedd wedi ei enwi ar ôl ei ewythr Iŵl Cesar. Ond mae'r holl dystiolaeth arall a geir ynglŷn â Chalendr Iŵl yn gwrthddweud honiad Sacrobosco.
Calendrau artiffisial
Ceir calendrau artiffisial â 30 diwrnod ym mis Chwefror. Gellir symleiddio modelau hinsawdd ag ati trwy osod hyd bob mis yn 30 diwrnod. Model Hinsawdd y Byd Canolfan Hadley]
Ffynonellau