Alexei Navalny |
---|
|
Llais | Aleksej Naval'nyij voice.oga |
---|
Ganwyd | 4 Mehefin 1976 Butyn |
---|
Bu farw | 16 Chwefror 2024 o Unknown FKU IK-3, Kharp |
---|
Man preswyl | Moscfa |
---|
Dinasyddiaeth | Rwsia |
---|
Alma mater | - Prifysgol Arianeg Ffederasiwn Rwsia
- Prifysgol Yale
- Prifysgol Cyfeillgarwch Pobl Rwsia
|
---|
Galwedigaeth | gwleidydd, cyfreithiwr, ymgyrchydd, blogiwr, person cyhoeddus, activist shareholder, sgriptiwr, entrepreneur, Carcharor gwleidyddol, prisoner of conscience |
---|
Swydd | Leader of Russia of the Future |
---|
Cyflogwr | - Aeroflot
|
---|
Taldra | 1.89 metr |
---|
Plaid Wleidyddol | Yabloko, Progress Party, Russia of the Future |
---|
Tad | Anatoly Navalny |
---|
Mam | Lyudmila Navalnaya |
---|
Priod | Yulia Navalnaya |
---|
Gwobr/au | Person of the Year, FP Top 100 Global Thinkers, Prize of the Platform of European Memory and Conscience, Gwobr Time 100, Gold Play Button, Courage Award, Boris Nemtsov Prize, Knight of Freedom Award, Gwobr Sakharov, M100 Media Award, The BOBs, Gwobr Dewrder Sifiliaid, Gwobr Bambi |
---|
Gwefan | https://navalny.com |
---|
llofnod |
---|
|
Cyfreithiwr a gwleidydd [o Rwsia oedd Alexei Anatolievich Navalny (4 Mehefin 1976 – 16 Chwefror 2024) a fu'n ymgyrchydd yn erbyn llygredigaeth wleidyddol ac yn un o brif arweinwyr y gwrthwynebiad i lywodraeth Vladimir Putin.
Ganed ef yn Butyn, Oblast Moscfa, yng nghyfnod yr Undeb Sofietaidd. Swyddog Wcreinaidd yn y fyddin oedd ei dad, a gweithiodd ei fam mewn labordy micro-electroneg. Cafodd Alexei a'i frawd iau eu magu mewn sawl tref filwrol, gan gynnwys Obninsk, a byddent yn bwrw'r haf gyda'u nain ar gyrion Kyiv. Wedi cwymp yr Undeb Sofietaidd, prynodd ei rieni ffatri i blethu basgedi. Astudiodd Navalny y gyfraith ym Mhrifysgol Gyfeillgarwch y Bobl ym Moscfa, ac wedi iddo raddio ym 1998 aeth ati i astudio arianneg hefyd. Cychwynnodd ar yrfa gyfreithiol ac ymunodd â'r blaid ryddfrydol Yabloko yn 2000. Priododd â'i wraig Yulia yn 2000 a chawsant un mab ac un ferch.[1]
Erbyn 2007, penodwyd Navalny yn is-bennaeth adran Yabloko ym Moscfa, ond cafodd ei ddiarddel o'r blaid wedi iddo ymuno â gorymdaith o genedlaetholwyr Rwsiaidd. Cychwynnodd ei flog ar wefan LiveJournal yn 2008 i ddatgelu llygredigaeth wleidyddol ac economaidd yn Rwsia. Daeth i sylw yn 2010 wedi iddo gyhoeddi ar ei flog cyhuddiadau o dwyll gan y cwmni gwladoledig Transneft i guddio $4 biliwn a ddiflannodd wrth adeiladu'r biblinell olew yn nwyrain Siberia.
Cyfeiriai Navalny ei feirniadaeth yn fwyfwy at Vladimir Putin a'i blaid Rwsia Unedig, ac yn 2011 ffurfiodd fudiad newydd i wrthwynebu llygredigaeth. Ymatebodd yr awdurdodau drwy gyhuddo Navalny ei hunan o lygredigaeth, a fe'i cafwyd yn euog yn 2012 o embeslu $500,000 o goed pan oedd yn cynghorwr i lywodraethwr Kirov. Er iddo gael dedfryd o garchar am 5 mlynedd, gohiriwyd y gosb, a ni chafodd ei wahardd felly o ymgeisio yn yr etholiad am faer Moscfa. Atynnodd nifer o gefnogwyr newydd o ganlyniad i'r achos llys, a chynhaliodd ralïau enfawr yn y brifddinas yn ystod yr ymgyrch etholiadol. Er i'r heddlu dargedu ei gefnogwyr, a'r sianeli teledu wrthod tynnu sylw at ei ymgyrch, enillodd Navalny 27% o'r bleidlais. Byddai Llys Hawliau Dynol Ewrop yn dyfarnu nad oedd treial Navalny yn deg, er y byddai barnwriaeth Rwsia yn cadarnháu ei ddedfryd, yn ohiriedig. Ceisiodd Navalny ymgynnig am yr arlywyddiaeth yn etholiad 2018, ond fe'i gwaharddwyd gan y comisiwn etholiadol. Cafodd ei arestio a'i chadw yn y ddalfa sawl gwaith am drefnu protestiadau yn erbyn y llywodraeth.[1]
Yn haf 2019, tra yn y carchar, cafodd ei drin am symptomau gwenwyn. Yn Awst 2020 dioddefodd salwch ar daith o Foscfa i Siberia, ac wedi i'r awyren lanio ar frys yn Omsk cafodd ei gludo i'r ysbyty. Anfonwyd awyren o'r Almaen i'w symud i Ferlin, ac yno cyhoeddodd ei feddygon taw'r cyfrwng nerfol Novichok oedd achos y gwenwyno. Ychydig fisoedd yn ddiweddarach, ffoniodd Navalny swyddog arfau cemegol yn yr FSB, gan ffugio bod yn gynorthwywr i Ysgrifennydd Cyngor Diogelwch Rwsia. Cyfaddefodd y swyddog orchymyn rhoi Novichok ar ddillad Navalny mewn ymgais i'w ladd.[2]
Dychwelodd Navalny i Rwsia ar ddechrau 2021, a chafodd ei arestio'n syth. Newidiwyd ei ddedfryd gohiriedig i ddedfryd o garchar am ddwy mlynedd a hanner, ac yn y gwersyll cyweiriol yn Pokrov, Oblast Vladimir, dirywiodd ei iechyd yn sylweddol. Wedi treial arall ym Mawrth 2022, fe'i cafwyd yn euog o embeslu a llygredigaeth a fe'i dedfrydwyd i garchar am naw mlynedd arall. Cafodd ei gadw mewn carchariad unigol yn barhaol. Yn Awst 2023 derbyniodd ddedfryd ychwanegol o 19 mlynedd am annog eithafiaeth ac ideoleg Natsïaidd. Fe'i anfonwyd i FKU IK-3, carchar drwg-enwog a elwir "Blaidd y Pegwn", yn Kharp, Yamalo-Nenets, ac yno y bu farw, yn 47 oed, yn Chwefror 2024.
Cyfeiriadau