Nofelydd poblogaidd o Gymru oedd Anne Adaliza Beynon Puddicombe (née Evans), neu Allen Raine (6 Hydref, 1836 - 21 Mehefin, 1908) a fu farw yn 71 mlwydd oed.[1] Erbyn 1912 roedd ei nofelau wedi gwerthu dwy filiwn o gopiau, sy'n ei gwneud yn un o'r awduron mwyaf poblogaidd drwy'r byd, yn y cyfnod. Lleolwyd pob un o'i nofelau rhamant yng Ngheredigion ac roedd y prif gymeriadau fel arfer werinwyr cyffredin.[2][3]
Bywgraffiad
Ganed yr awdur yn nhref Castell Newydd Emlyn yn 1836 yn ferch i Benjamin a Letitia Grace Evans. Roedd ei thad (yn ŵyr i David Davies o Gastellhywel neu Dafis Castellhywel fel yr adnabyddid ef) yn gyfreithiwr a'i mam yn wyres i'r Parch. Daniel Rowland. Buont yn byw yng Nglandŵr, Tresaith hyd at 1872.[4] Fe'i danfonwyd i fyw i Cheltenham a Wandsworth ac yna i Lundain gyda'i chwaer a dychwelodd i Gymru yn 1856. Yn 1872 symudodd Anne yn ôl i Lundain wedi iddi briodi'r banciwr (gyda Banc Smith Payne, Llundain) ac arlunydd[5]Beynon Puddicombe.
Yn Llundain y cychwynodd ysgrifennu o dan y llysenw Allen Raine. Cyhoeddodd “A Welsh Singer” yn 1896, ar ôl iddi rannu’r wobr gyntaf am nofel o'r enw Ynysoer yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon yn 1894. Dychwelodd y ddau i Dresaith yn 1900 pan drawyd Beynon Puddicombe gyda salwch meddwl. Buont yn byw ym "Mronmôr", Tre-saith, Ceredigion, lle bu farw Beynon ym mis Mai 1906. Bu Anne farw ar 21 Mehefin 1908.
Enillodd nofel gyntaf Raine, Ynysoer, gwobr am y nofel gorau yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon 1894 o dan ei henw barddol Arianwen. Roedd yn un o ddwy nofel a dyfarnwyd yn gydradd gyntaf, y llall oedd Robert Siôn, neu Fywyd Gwledig yng Nghymru, Gan Elis o'r Nant.[6] Cyhoeddwyd fersiwn Cymraeg Ynysoer fel nofel gyfres yn Y Genedl Gymraeg.[7]
Addaswyd tri o'i llyfrau ar gyfer ffilm: Torn Sails (1915), A Welsh Singer (1920) a By Berwen Banks (1920).
Roedd ganddi gysylltiadau â Sarah Jacobs y ferch a ymprydiodd o Llanfihangel ar Arth. Cafodd Anne ei chladdu ym mynwent eglwys plwyf Penbryn, ger Tre-saith, lle priododd; yn y pentref bychan lle treuliodd chwarter canrif olaf ei hoes.
Llyfryddiaeth
Ynysoer (stori arobryn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon; 1894). Newidiwyd yr enw pan gyhoeddwyd y gwaith ar ffurf nofel yn 1909 i Where Billows Roll.
A Welsh Singer (1896)
Torn Sails (1897)
By Berwen Banks (1899)
Garthowen (1900)
A Welsh Witch (1902)
On the Wings of the Wind (1903)
Hearts of Wales (1905)
Queen of the Rushes (1906)
Neither Storehouse nor Barn (1908)
All in a Month (casgliad o straeon byr; 1908)
Under the Thatch (1910)
Ffilmiau
Torn Sails (1915), A Welsh Singer (yn serennu Florence Turner 1920) a By Berwen Banks (1920).