Mae Amritsar yn ddinas yn y Punjab yng ngogledd-orllewin India.
Sefydlwyd Amritsar yn 1577 gan Ram Das, pedwerydd guru y Siciaid. Mae'n ddinas sanctaidd i'r Siciaid er hynny. Mae'n enwog am ei Theml Aur.
Digwyddodd Cyflafan Amritsar yno yn 1919 pan saethwyd a lladdwyd rhai cannoedd o wrthdystwyr gan filwyr o'r fyddin Indiaidd Prydeinig. Bu cyflafan arall yn 1984 pan ymosododd milwyr Indiaidd ar y Deml Euraidd gan ladd tua 100 o eithafwyr Siciaidd; roedd llofruddiaeth Indira Gandhi yn nes ymlaen yn yr un flwyddyn yn ddial am hynny.