Mae blodyn yn helpu planhigion blodeuol i atgenhedlu. Mae blodau yn aml yn lliwgar ac yn aroglu i ddenu pryfed, ac mae'r pryfed yn helpu i wasgaru'r paill er mwyn ffrwythlonni'r planhigyn. Bryd arall y gwynt sydd yn gwasgaru'r paill. Ar ôl i ran o'r blodyn wywo mae'r hyn sydd ar ôl yn datblygu i fod yn ffrwyth, ac yn y ffrwyth mae hadau.