Brithyll sy'n treulio rhan fwyaf ei oes yn y môr yw'r siwin (neu sewin, brithyll y môr). Cafodd ei enw gan fod smotiau (brith) coch a du drosto. Yn y 13 - 14 ganrif dywedwyd yn ysgrifau Peniarth gan rywun, "Tebyg wyf i frithyll...". Ceir hefyd fath o frithyll sy'n dwyn yr enw 'brithyll brith' (sef, yn Saesneg, spotted trout). Brithyll môr yw sea trout a brithyll y dom ydy'r stickleback.
Llên Gwerin
Blodyn samon
Mewn rhai llefydd, dywedir ar lafar gwlad bod yn rhaid aros am y blodyn samon i flodeuo (sef bysedd y cwn; Digitalis purpurea), cyn y bydd y gwyniad neu’r siwin yn rhedeg.[1]
Pysgodyn Iesu Grist
“Mae gennyf gof o hen ŵr o’r Blaenau yn sôn am ‘bysgod Iesu Grist’ wrthym un tro a ninnau yn methu a deall pam y gelwid nhw wrth yr enw hwn, a dyma beth ddywedodd – ‘os edrychwch chi ar eu cyrff y mae ôl bodiau’r Iesu arnynt, sef marciau tebyg i fodiau dynol ar eu hochrau’.” Steffan ab Owain[2]
Cyfeiriadau
↑Ifor Williams yn dyfynnu’r pysgotwr eog o Gaernarfon Tony Lovell ym Mwletin Llên Natur rhifyn 53 [1]