Ymladdwyd Brwydr Cai (neu Frwydr Gai, neu Frwydr Winwaed) yn 654 rhwng Penda, brenin Mersia, ac Oswy brenin Brynaich (Northumbria), brawd y brenin Oswallt.
Roedd Penda wedi gwneud cynghrair รข Chadwallon ap Cadfan, brein Gwynedd, yn erbyn Northumbria. Wedi marwolaeth Cadwallon, gwnaeth gynghrair ag olynydd Cadwallon fel brenin Gwynedd, Cadafael ap Cynfeddw. Roedd ganddo hefyd gynheiriaid o Deira. Gyda'r gelyn gerllaw, ymadawodd Cadafael a'i fyddin yn y nos, gan ennill iddo'i hun y llysenw "Cadafael Cadomedd". Gorchfygwyd Penda a'i ladd.
Dilynwyd Penda fel brenin rhan ddeheuol Mersia gan ei fab Peada, tra bu rhan ogleddol y deyrnas dan reolaeth Northumbria am gyfnod.
Lleoliad
Does neb gant-y-cant yn sicr ym mhle mae Maes Gai, fel y gelwid maes y frwydr gan yr hen Frythoniaid, ond ymddengys mai'r lleoliad mwyaf tebygol ydy afon rhywle yn yr hen Elfed, afon Gwinwaed o bosibl. Enw'r afon heddiw, o bosib, ydy "Cock Beck" yn Leeds.
Cred eraill mai'r afon Went sydd yma, i'r gogledd o Doncaster.
Cyfeiriadau