Ymladdwyd Brwydr Ceri yn 1228 yng nghwmwd Ceri, Powys. Roedd yr ymladd yma rhwng lluoedd Llywelyn Fawr, Tywysog Gwynedd, a Hubert de Burgh, oedd yn un o farwniaid mwyaf nerthol Lloegr.
Roedd Hubert wedi derbyn Arglwyddiaeth Trefaldwyn ac wedi dechrau meddiannu rhai o diroedd Llywelyn yng Ngheri. Daeth y brenin a byddin i gynorthwyo Hubert, a ddechreuodd adeiladu castell o fewn cwmwd Ceri. Llwyddodd Llywelyn i orfodi'r fyddin Seisnig i encilio, a chytunodd y brenin i ddinistrio'r castell yn gyfnewid am daliad o £2,000 gan Lywelyn. Cododd Llywelyn yr arian trwy ofyn am yr un swm fel pris rhyddid Gwilym Brewys, oedd wedi ei gymeryd yn garcharor yn yr ymladd.
Cyfeiriadau