Brwydr a ymladdwyd yn 1052 yn Llanllieni (Saesneg: Leominster) oedd Brwydr Llanllieni.
Yn ôl cofnod yng Nghronicl yr Eingl-Sacsoniaid, arweiniodd Gruffudd ap Llywelyn, brenin Gwynedd, gyrch ar Lanllieni yn haf 1052 a arweiniodd at Frwydr Llanllieni, rhwng y Cymry a byddin o Saeson a Normaniaid. Cafodd y Cymry fuddugoliaeth ysgubol.
Cyfeiriadau