C.P.D. Port Talbot
|
Enw llawn |
Clwb Bechgyn a Merched Bro Cambrian a Clydach |
---|
Sefydlwyd |
1965 |
---|
Cynghrair |
Cynghrair Cymru (Y De) |
---|
2023/24 |
4. |
---|
|
|
Clwb pêl-droed yng Nghwmclydach, Rhondda Cynon Taf ydy Clwb Bechgyn a Merched Bro Cambrian a Clydach (Saesneg: Cambrian and Clydach Vale Boys and Girls Club). Mae'r clwb yn chwarae yng Nghynghrair Cymru (Y De), ail adran pêl-droed yng Nghymru.
Ffurfiwyd y clwb yn 1965 fel Cambrian United[1] ac maent yn chwarae ar faes M&P 3G.
Hanes
Ffurfwyd y clwb ym 1965 fel CPD Cambrian United gan gymryd eu henw o bwll glo lleol[1]. Chwaraeodd y clwb yng Nghynghrair Rhondda a'r Cylch cyn ymuno â Chynghrair Amatur De Cymru. Cafodd y clwb eu llwyddiant mawr cyntaf wrth ennill Tlws Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn erbyn Rhyl Delta ym 1996-97[2].
Ymunodd y clwb â Chynghrair Cymru (Y De) yn 2005 gan sicrhau dyrchafiad i'r Adran Gyntaf yn 2006[3] a chipio coron y gynghrair am y tro cyntaf yn 2011-12[4].
Cafodd y Clwb fuddugoliaeth nodedig ar 23 Tachwedd 2018 yng Nghwpan Cynghrair Cymru Nathaniel MG wrth guro'r deiliaid Y Seintiau Newydd, 2-1.[5][6] Sgoriwr y gôl fuddugol oedd Andre Griffiths.[7]
Anrhydeddau
- Tlws CBDC
- Cynghrair Cymru (Y De) Adran Un
- Pencampwyr: 2011–12
- Ail Safle: 2009-10
- Cynghrair Cymru (Y De) Adran Tri
- Cynghrair Amatur De Cymru
Dolenni
Cyfeiriadau