Penrhyncoch
|
Enw llawn |
Clwb Pêl-droed Penrhyncoch |
---|
Llysenw(au) |
(Roosters) |
---|
Sefydlwyd |
1965[1] |
---|
Maes |
Cae Baker |
---|
Rheolwr |
? |
---|
|
|
Clwb pêl-droed o bentref Penrhyncoch, Ceredigion ydy Clwb Pêl-droed Penrhyncoch sy'n chwarae yng Nghynghrair Undebol Huws Gray, sef prif adran gogledd Cymru ac ail reng pyramid pêl-droed cenedlaethol Cymru.
Ffurfiwyd y clwb ym 1965[1] ac maent yn chwarae eu gemau cartref yng Nghae Baker. Mae logo'r clwb yn defnyddo Llew Gwaithfoed a welir ar faner Ceredigion.
Hanes
Dechreuodd y clwb eu hanes yng Nghynghrair Aberystwyth a'r Cylch gan ennill y gyngharir am y tro cyntaf yn eu hanes ym 1971-72[2]. Ar ôl ennill pum pencampwriaeth mewn 10 mlynedd, cafodd y clwb eu derbyn i Ail Adran Cynghrair Canolbarth Cymru ym 1982-83 gan ennill yr Adran a sicrhau dyrchafiad i'r Adran Gyntaf[3].
Ym 1990 roedd y clwb yn un o aelodau gwreiddiol y Gynghrair Undebol[1][4] ond am resymau arianol, penderfynodd y clwb ddisgyn yn ôl i Gynghrair Canolbarth Cymru ym 1998-99[1].
Ar ôl cipio dwy bencampwriaeth Canolbarth Cymru mewn tair blynedd[5][6] penderfynodd y clwb wneud cais am ddyrchafiad yn ôl i'r Gynghrair Undebol ac, ar ôl gorffen yn ail i Ail Dîm Aberystwyth yn 2003-04, llwyddodd y clwb i esgyn yn ôl i ail reng pyramid pêl-droed Cymru[7].
Ar ôl 10 tymor yn y Gynghrair Undebol disgynodd y clwb yn ôl i Gynghrair Canolbarth Cymru[8] cyn llwyddo i ennill pencampwriaeth Cynghrair Canolbarth Cymru a dyrchafiad yn ôl i'r Gynghrair Undebol wrth ddathlu 50 mlynedd o fodolaeth yn 2015-16[1].
Cyfeiriadau