Roedd Charles Rodney Morgan (2 Rhagfyr 1828 – 14 Ionawr 1854 ) yn wleidydd Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Ceidwadol Aberhonddu rhwng 1852 a 1854.[ 1]
Bywyd Personol
Castell Rhiwpera
Ganwyd Morgan yng Nghastell Rhiwpera Machen Isaf yn fab i Charles Morgan Robinson Morgan , Barwn 1af Tredegar, a’i wraig Rosomond merch y Cadfridog Godfrey Basil Mundy. Roedd yn frawd i Frederick Courtenay Morgan AS Mynwy a Sir Fynwy a Godfrey Charles Morgan AS Sir Frycheiniog .
Cafodd ei addysgu yng Ngholeg Eton .
Ni fu’n briod.[ 2]
Gyrfa
Ymunodd a’r Gwarchodlu Coldstream ym 1847.
Gyrfa wleidyddol
Safodd Morgan yn enw'r Blaid Geidwadol yn etholaeth Aberhonddu ym 1852[ 3] gan gipio'r sedd oddi wrth yr aelod Rhyddfrydol John Lloyd Vaughan Watkins . Cadwodd y sedd hyd ei farwolaeth ym 1854.
Yn ei anerchiad etholiadol roedd am ymgyrchu:
yn erbyn gosod diffyndollau a’r fewnforio ŷd
o blaid cael gwared ar dollau ar frag
i roi cefnogaeth frwd i Eglwys Loegr ac i wrthwynebu unrhyw ymgais i’w gwanhau
i wrthwynebu ehangu’r etholfraint[ 4]
Ond gan iddo farw dim ond dwy flynedd ar ôl ei ethol ni chafodd fawr o gyfle i wireddu ei addewidion etholiadol.
Marwolaeth
Bu farw yn Marseilles yn 25 mlwydd oed. Cludwyd ei weddillion yn ôl i Gymru i’w rhoi i orwedd ym meddgor y teulu yn Eglwys Basaleg [ 5] .
Cyfeiriadau