Mae Afon Dyfrdwy yn llifo heibio i'r dref. Yn yr Oesoedd Canol roedd Corwen yn rhan o gwmwd Dinmael. Mae gan y dref gysylltiadau ag Owain Glyndŵr; cymysg fu'r ymateb i'r cerflun cyntaf o'r arwr a godwyd ar y sgwâr, ond mae'r Tywysog ar ei farch (gweler y llun) wedi'i dderbyn gyda breichiau agored. Bob blwyddyn ers 2009 ceir gorymdaith drwy'r dref a dathliadau dros gyfnod o ddeuddydd i ddathlu Diwrnod Glyn Dŵr (Medi 16). Ceir hefyd hen domen neu fwnt sef Castell Glyndŵr tua kilometr i'r dwyrain, i gyfeiriad y Waun.
↑"Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.