Cynghrair Bêl-droed Cymru sydd, am resymau nawdd, yn cael ei hadnabod fel Cynghrair Bêl-droed Cymru NathanielCars.co.uk (Saesneg: NathanielCars.co.uk Welsh Football League) oedd prif gynghrair pêl-droed de Cymru. Mae'r gynghrair yn ffurfio'r drydydd rheng Pyramid pêl-droed Cymru ac yn bwydo Cymru South sydd yna'n bwydo Uwch Gynghrair Cymru.
Ad-drefn - sefydlu Cymru South
O dymor 2019/20 ymlaen, yn sgil ad-drefnu i system byramid cyngheiriau Cymru newidiwyd y Gynghrair Undebol gan Bencampwriaeth De CBDC dan y brand newydd, Cymru South sy'n cynnwys y rhan fwyaf o dimau Cynghrair Cymru (Y De). Mae Cynghrair Cymru (Y De) yn cadw ei hunaniaeth ond bellach yn 3ydd lefel pyramid pêl-droed Cymru.[1][2]
Tiriogaeth a Threfniadaeth
Mae tair adran yng Nghynghrair Cymru (Y De) ar gyfer timau pêl-droed siroedd Gwent, Morgannwg, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Ceredigion a Brycheiniog. Yn ogystal â'r dair brif adran mae'r Gynghrair yn trefnu adran i Ail dimau ac i dimau Ieuenctid.
Hanes
Ym mis Ebrill 1904 cyhoeddodd papur newydd y Merthyr Express y byddai Cynghrair Cwm Rhymni yn cael ei sefydlu ar gyfer tymor 1904-05 i redeg ochr yn ochr â Chynghrair De Cymru[3] oedd wedi ei sefydlu ym 1891[4]. Gyda 25 o glybiau yn ymaelodi cafwyd tair adran gydag Athletig Aberdâr yn sicrhau'r bencampwriaeth cyntaf.[3]. Ym 1909 cafodd y Gynghrair ei henwi'n Cynghrair Bêl-droed Morgannwg cyn dod yn Gynghrair Bêl-droed Cymru ym 1912.
Mae'r gynghrair wedi newid ei henw sawl gwaith gan gynnwys y Premier Division a National Division.
Yn 1992, yn dilyn sefydlu Cynghrair Bêl-droed Cymru, daeth y gynghrair yn swyddogol yn ail lefel i'r gynghrair genedlaethol yn system byramid CBD Cymru. Dim ond un lîg genedlaethol sydd gan Gymru mewn pêl-droed.[5]
Pencampwyr Adran 1 Cynghrair Cymru y De
Tymor Cyfredol
Cyfeiriadau
Dolenni allanol