Delwyn Williams |
---|
Ganwyd | 1 Tachwedd 1938 |
---|
Bu farw | 21 Awst 2024 |
---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
---|
Alma mater | |
---|
Galwedigaeth | gwleidydd, cyfreithiwr, cyfarwyddwr cwmni |
---|
Swydd | Aelod o 48fed Llywodraeth y DU |
---|
Plaid Wleidyddol | y Blaid Geidwadol |
---|
Gwleidydd a chyfreithiwr o Gymru oedd David John Delwyn Williams (1 Tachwedd 1938 – 22 Awst 2024), a fu'n Aelod Seneddol Ceidwadol dros Faldwyn rhwng 1979 ac 1983.
Bywyd cynnar ac addysg
Addysgwyd Williams yn Ysgol Uwchradd y Trallwng, a Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth.
Gyrfa wleidyddol
Safodd Williams yn aflwyddiannus fel ymgeisydd Ceidwadol am y tro cyntaf ym Maldwyn yn Etholiad Cyffredinol 1970. Llwyddodd ennill 7,891 pleidlais (twf o +2.3% ar ganlyniad Ceidwadol 1966) ond trechwyd gan Emlyn Hooson- a fu'n Aelod Seneddol Rhyddfrydol dros yr etholaeth ers is-etholiad 1962.
Safodd yn yr etholaeth eto fel yr ymgeisydd Ceidwadol yn Etholiad Cyffredinol 1979, gan lwyddo i drechu Hooson dro hyn gyda mwyafrif o 1,593 pleidlais. Dyma'r tro cyntaf am gwta canrif i'r etholaeth adael meddiant y Blaid Ryddfrydol.[1] Ceisiodd Williams amddiffyn ei sedd yn Etholiad Cyffredinol 1983, ond collodd i'r ymgeisydd Rhyddfrydol, Alex Carlile o 668 pleidlais.
Yn 2007, safodd yn aflwyddiannus fel ymgeisydd mewn is-etholiad yn ward Gungrog, y Trallwng ar gyfer Cyngor Sir Powys.
Yn ystod 2015 bu ddatgan ei gefnogaeth i ymgyrch Des Parkinson- yr ymgeisydd UKIP yn etholaeth Maldwyn ar gyfer Etholiad Cyffredinol y flwyddyn yno, gan feirniadu nifer o bolisiau a phenderfyniadau arweinydd y Ceidwadwyr, David Cameron.[2][3]
Bywyd personol
Roedd yn briod ag Olive ac roedd ganddynt dau o blant. Roeddent yn byw yn Cegidfa, Sir Drefaldwyn.[3]
Bu farw yn Awst 2024 yn dilyn salwch.[4] Roedd yn 85 mlwydd oed.[5] Cynhaliwyd ei angladd yn Amlosgfa Emstrey, yr Amwythig ar 11 Medi 2024 am 1.15pm, wedi ei ddilyn gyda dathliad o'i fywyd yn nhafarn y Kings Head, Guilsfield.[6]
Cyfeiriadau