Share to: share facebook share twitter share wa share telegram print page

Diocletian

Diocletian
GanwydGaius Valerius Diocles Edit this on Wikidata
240s Edit this on Wikidata
Doclea Edit this on Wikidata
Bu farw3 Rhagfyr 316 Edit this on Wikidata
Salona Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, teyrn Edit this on Wikidata
Swyddymerawdwr Rhufain, seneddwr Rhufeinig, Conswl Rhufeinig, Conswl Rhufeinig, Conswl Rhufeinig Edit this on Wikidata
Adnabyddus amfirst edict of Diocletian against Christians Edit this on Wikidata
PriodPrisca Edit this on Wikidata
PlantGaleria Valeria Edit this on Wikidata

Diocletian (Lladin: Gaius Aurelius Valerius Diocletianus) (c. 2453 Rhagfyr 311), oedd ymerawdwr Rhufain o 20 Tachwedd 284 hyd 1 Mai 305. Yn ystod ei gyfnod fel ymerawdwr creodd y Tetrarchiaeth.

Ganed Diocletian yn Dalmatia o deulu distadl. Dywed rhai fod ei dad yn gaethwas wedi ei ryddhau, o Illyria. Ei enw gwreiddiol oedd Diocles (Διοκλής). Ymunodd a'r fyddin a threuliodd ei flynyddoedd cynnar mewn ymgyrchoedd parhaus ar ffin Afon Donaw, yng Ngâl ac yn ernyn y Persiaid. O dan yr ymerodron Aurelian a Probus dringodd trwy'r rhengoedd nes dod yn bennaeth gwarchodlu personol yr ymerawdwr Numerian yn ystod ei ymgyrch yn erbyn y Parthiaid.

Pan laddwyd Numerian, cyhoeddwyd Diocletian yn ymerawdwr gan y milwyr ar 20 Tachwedd 284 yn ninas Nicomedia. Dechreuodd ymgyrch yn erbyn cyd-ymerawdwr Numerian, ei frawd Carinus, ac ar ôl ymladd yn Moesia enillodd Diocletian y fuddugoliaeth. Enwodd gymrawd, Maximinus fel "Cesar" a'i gyrru i ddelio a gwrthryfel y Bagaudae. Pan ddychwelodd Maximinus yn llwyddiannus, gwnaeth Diocletian ef yn gyd-ymerawdwr yn 286.

Daeth Diocletian yn ymerawdwr ar ddiwedd y cyfnod a elwir yn argyfwng y drydedd ganrif. Yn y cyfnod yma bu 19 o ymerodron mewn cyfnod o 50 mlynedd, llawer ond yn teyrnasu am ychydig fisoedd. Gwnaeth Diocletian newidiadau mawr yn nhrefn rheoli'r ymerodraeth. Ceisiodd adfywio'r economi a rhannodd yr ymerodraeth yn 96 talaith oedd wedi eu rhannu'n 12 rhanbarth diocesis. Ceisiodd hefyd adfywio hen grefydd Rhufain, a bu llawer o erlid ar y Cristionogion yn ystod ei deurnasiad.

Y newid pwysicaf a wnaed gan Diocletian oedd dechrau'r Tetrarchiaeth, oedd yn rhannu'r ymerodraeth yn bedwar. Yn rheoli'r rhannau hyn yr oedd dau "Augustus", sef Diocletian ei hun a Maximinus, a dau "Cesar", Galerius a Constantius Chlorus. Roedd Diocletian, fel Augustus y dwyrain, yn gyfrifol am Thracia, Asia a'r Aifft; Galerius yn gyfrifol am y Balcanau heblaw Thracia, Maximinus fel Augustus y gorllewin yn rheoli Italia, Hispania ac Affrica, a'r Cesar Constantius Chlorus yn gyfrifol am Gâl a Phrydain. Roedd pob Augustus i fod i ymddeol ar ôl 20 mlynedd, gyda'r ddau Gesar yn dod yn Augustus yn eu lle.

Ar 1 Mai 305 ymddeolodd Dioclecian a Maximianus yn ôl y cynllun; y tro cyntaf i ymerawdwr Rhufeinig ymddeol yn wirfoddol. Roedd Diocletian wedi adeiladu palas iddo'i hun yn Spalatum (Split heddiw) yn Dalmatia. Dywedir ei fod yn ei ddifyrru ei hun ym ystod ei ymddeoliad trwy dyfu bresych. Bu farw yn ei blasdy yn y flwyddyn 313.

Rhagflaenydd:
Carinus a Numerian
Ymerawdwr Rhufain
20 Tachwedd 2841 Mai 305
gyda Maximianus
Olynydd:
Galerius a Constantius Chlorus
Kembali kehalaman sebelumnya