Roedd cwmwdEmlyn Is Cuch yn un o ddau gwmwd yng nghantrefEmlyn, yn ne-orllewin Cymru. Heddiw mae ei diriogaeth yn gorwedd yn Sir Benfro. Roedd yn gwmwd o fryniau isel, coedwigoedd a chymoedd.
Roedd afon Cuch yn dynodi'r ffin rhwng Emlyn Is Cuch a'r ail gwmwd, Emlyn Uwch Cuch. I'r gogledd ffiniai Emlyn Is Cuch â chwmwd Is Coed, cantref Is Aeron, gydag afon Teifi yn ffin naturiol rhyngddynt. I'r de ffiniai â chwmwd Elfed, cantref Gwarthaf, ac i'r gorllewin â chantref Cemais.