Share to: share facebook share twitter share wa share telegram print page

Ffawna Cymru

Yr anifeiliaid sy'n byw yng Nghymru yw ffawna Cymru, milod Cymru, milfodeg Cymru neu'n syml anifeiliaid Cymru. Dyma amlinilliad o uchafbwyntiau bywyd gwyllt Cymru a lle gellir ei weld.

Mae rhannau anghysbell o'r wlad yn gartref i rai mamaliaid ac adar sydd wedi darfod yng ngweddill Prydain , neu'n brin mewn mannau eraill o'r ynys, gan gynnwys y ffwlbart, y bele, y barcud coch a'r frân goesgoch. Ceir niferoedd mawr o adar y môr a'r glannau, ac mae'r dolffin trwynbwl yn byw ym Mae Ceredigion.

Adar

Barcud Coch a'r Gwalch

Gwalch benywaidd, Cors Dyfi

Mae ymdrechion wedi bod i ailgyflwyno'r barcud coch yng Nghymru. Erbyn hynmae'r barcud coch i'w weld yn y canolbarth ac mae ei gynffon fforchog yn eiconig yma. Bwydir y barcudiaid ar Fferm Gigrin ger Rhaeadr Gwy, ac hefyd Canolfan Goedwig Bwlch Nant yr Arian. Mae math arall o aderyn ysglyfaethus hefyd yn byw yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Dyfi ger Machynlleth. Yno mae gweilch yn nythu ar guddfan adar uchel.[1]

Adar morol

Pâl yn rhedeg, Ynys Sgomer

Ar warchodfa RSPB Clogwyni Ynys Lawd ar Ynys Môn mae amrywiath o adar morol yn byw gan gynnwys palod, gwylogod, llursod, gwylanod coesddu, adar drycin y graig, yn ogystal a chigfrain, brain coesgoch a hebogiaid tramor.[1] Mae pâliaid hefyd yn nythu ar ynysoedd o amgylch Cymru gan gynnwys Ynys Sgomer ger arfordir Penfro.[1] Hefyd ar Ynys Sgomer yn ogystal a Ynys Sgogwm mae Aderyn drycin Manaw ac amcagyfrifir fod tua 350,000 o barau yn ythu yno ac maent hefyd i'w gweld ar Ynys Enlli.[1]

Adar coed

Grugiar ddu, Llangollen

Yng Nghoed Llandegla fe ellir gweld grugiar ddu gwryw yn ystod yr hâf yn gwneud campiau gan fflachio'u plu ac ymladd ei gilydd i ddenu benywod.[1]

Yng nghoetir Withybeds wrth yr afon Llugwy mae dros 30 o rywogaethau o adar yn paru gan gynnwys gwybedogion, conocellod a thylluanod bach.[1]

Adar tir agored

Gwarchodfa RSPB Ynys-hir yw un o gadarenleoedd y cornchwiglod, lle mae cynefin amrywiol iddynt gan gynnwys cors, coedwigoedd a dolydd.[1]

Mamaliaid

Ysgyfarnog, Mynydd Hiraethog

Mae mamaliaid amrywiol yn byw yng Nghyrmu gan gynnwys yr ysgyfarnog.[angen ffynhonnell]




Ymlysgiaid

Gwiber, Mynydd Hiraethog

Mae gwiberod yn byw yng Nghymru hefyd.[angen ffynhonnell]

Pryfed

Glesyn serennog, Mynydd Marian

Mae pryfed amrywiol i'w gweld yng Nghymru.[angen ffynhonnell]

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 "Mannau gwych i weld bywyd gwyllt". Croeso Cymru. Cyrchwyd 2024-06-02.
Kembali kehalaman sebelumnya