Cymuned ym Mhowys, Cymru, yw Ffordun gyda Thre'r-llai a Threlystan (Saesneg: Forden with Leighton and Trelystan). Saif y gymuned ar lan ddwyreiniol Afon Hafren, rhwng yr afon a'r ffin â Lloegr, a gyferbyn a'r Trallwng ar lan arall Hafren. Mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Ffordun, Tre'r-llai a Trelystan.
Ceir nifer o hynafiaethau yn y gymuned, yn cynnwys bryngaer Caer Digoll ar ben Cefn Digoll; crybwyllir y rhain yn y chwedl Breuddwyd Rhonabwy. Mae Caer Ffordun yn gaer bwysig o gyfnod y Rufeiniaid, ac mae Clawdd Offa yn mynd trwy'r gymuned.
Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 1,320.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[1] ac yn Senedd y DU gan Craig Williams (Ceidwadwr).[2]
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]
Cyfrifiad 2011 |
|
|
|
Poblogaeth cymuned Ffordun gyda Thre'r-llai a Threlystan (pob oed) (1,426) |
|
100% |
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Ffordun gyda Thre'r-llai a Threlystan) (150) |
|
10.9% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
19% |
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Ffordun gyda Thre'r-llai a Threlystan) (557) |
|
39.1% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
73% |
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Ffordun gyda Thre'r-llai a Threlystan) (199) |
|
33.3% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
67.1% |
Cyfeiriadau