Genedigaeth Lotus yw'r arfer o adael y cortyn wmbilig heb ei dorri wedi'r enedigaeth fel bod y baban yn dal ynghlwm i'r brych tan i'r cortyn wahanu'n naturiol.
Brych yw'r organ mewn rhanfwyaf o famaliaid, sy'n ffurfio yn leinin y groth gan uniad y bilen mwcaidd y groth gyda philenau'r ffoetws, dyma sy'n darparu maeth i'r ffoetws a gwaredu â'r cynnyrch gwastraff.
Ôl-ysgar yw'r broses o waredu'r corff o'r brych yn dilyn yr enedigaeth.
Doula yw'r term am gynorthwyydd esgor sy'n darparu cefnogaeth emosiynol a chysur corfforol ac yn y blaen, i'r fam, partneriaid, teuluoedd a'r babi cyn, yn ystod ac wedi'r enedigaeth. Mae doula postpartum yn darparu cefnogaeth ôl-enedigaeth ar gyfer y fam a'r plentyn, megis gyda ymlymiad y plentyn a gofal arall ar gyfer banod sydd newydd eu geni. Daw'r term "doula" o'r Groeg "doulos", neu "yr un a wasanaethir".
Ystyron trosiadol
Defnyddir y term genedigaeth yn drosiadol i gyfeirio at gychwyn neu ddechrau, yn arbennig ar gyfer rhyfeddodau naturiol, sy'n nodedig am ei faint neu ei gymlethdeb, neu a gysidrir i fod yn ffafriol.