Clerigwr o Gymru oedd George Griffith (30 Medi 1601 – 28 Tachwedd 1666).
Cefndir
Ganwyd 1601 yn y Penrhyn, Llandegai yn fab i Anne Griffith a Robert Griffith. Aeth i Ysgol Westminster, ysgol fonedd yn Llundain, ac yn 1619 fe'i derbyniwyd yn Eglwys Crist, Rhydychen lle derbyniodd M.A. yn 1626 a D.D. yn 1635. O dan arweiniad John Owen, esgob Llanelwy, tad-yng-nghyfraith ei frawd William, roedd yn gaplan, canon, rheithor Y Drenewydd. Erbyn 1633 aeth yn rheithor i Lanymynech a Llandrinio. Yng nghonfocasiwn 1640 dywedir ei fod wedi pwysleisio'r angen o gael argraffiad newydd o'r Beibl Cymraeg.[1]
Ffynonellau
- J. E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families (1914), 26;
- Calendar of State Papers, Domestic Series, 1636-7, 569;
- Llawysgrif Rawlinson yn Llyfrgell Bodlean, Rhydychen c. 261 (18) (reprint);
- Lambeth MS 997, i, 66;
- Llawysgrif Tanner cxlvi, 2, 3;
- Llawysgrifau Dolben 302/89, 114, 304b/31-2, 305/19-;
- Lambeth MS 639 (303);
- Y Cymmrodor, xxxviii (1927), 151-2, 168-9.
Cyfeiriadau