Mae hanes Simbabwe yn rhan annatod o hanes Affrica Ddeheuol a hanes y pobloedd Bantw.
Yn yr Oesoedd Canol roedd Simbabwe yn ganolfan i ymerodraeth frodorol yn ne Affrica a'i phrifddinas yn Simbabwe Fawr. Pobl Mashona oedd y trigolion. Cawsant eu gorchfygu gan eu cymdogion y Matabele.
Ym 1911 rhannwyd Rhodesia yn Ogledd Rhodesia (Sambia heddiw) a De Rhodesia (Simbabwe heddiw), a ddaeth yn wladfa Brydeinig hunanlywodraethol ym 1922. Ond ymsefydlwyr gwyn a redai'r wlad a doedd gan y bobl frodorol ddim llais yn ei llywodraeth.
Yn 1953 cafodd dwy ran Rhodesia eu hailuno eto i ffurfio Ffederaliaeth Rhodesia a Nyasaland. Ni pharhaodd yr uned newydd ond am ddeng mlynedd, ac ar ôl ei ymrannu yn 1963, hawliodd gwynion De Rhodesia annibyniaeth i'r wlad.
Ailenwyd De Rhodesia yn Rhodesia yn 1964. Datganodd Ian Smith, prif weinidog gwyn y wlad, annibyniaeth unochrog (UDI) oddi ar Brydain yn 1965 a datganwyd gweriniaeth yno yn 1970.
Annibyniaeth ar Brydain
Cafwyd rhyfel herwfilwrol gan ZANU a grwpiau eraill yn erbyn y llywodraeth. Erbyn 1978 roedd llywodraeth Ian Smith wedi gorfod cydnabod na allai rheolaeth y lleiafrif gwyn barhau, ac arwyddwyd cytundeb gyda Abel Muzorewa, Ndabaningi Sithole ac eraill i rannu grym a chynnal etholiadau. Dychwelodd Robert Mugabe, arweinydd ZANU (PF) i Simbabwe o alltudiaeth ym Mosambic yn Rhagfyr 1979. Daeth yn Brif Weinidog Simbabwe yn 1980 ac yn Arlywydd cyntaf y wlad yn 1987.
Mae cryn nifer o lywodraethau wedi beirniadu llywodraeth Mugabe yn hallt am lygredd, cam-drin gwrthwynebwyr gwleidyddol a chymryd tir oddi wrth ffermwyr gwynion. Yn y blynyddoedd diwethaf mae economi Simbabwe wedi dirywio yn fawr, gyda lefel uchel o chwyddiant a diweithdra.
Ar 21 Tachwedd 2017, wedi cryn bwysau gan ei blaid a'i bobl, ymddeolodd Robert Mugabe.