Pentref bychan hanesyddol yng nghymuned Henllan Fallteg, Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Henllan Amgoed.
Gorwedd y pentref ar lôn wledig tua 3 milltir i'r gogledd o'r Hendy-gwyn ar Daf.
Yn yr Oesoedd Canol bu'n brif ganolfan eglwysig cwmwd Amgoed, un o wyth cwmwd Cantref Gwarthaf. Yn wreiddiol roedd y cwmwd yn rhan o deyrnas Dyfed, ond yn ddiweddarach daeth yn rhan o deyrnas Deheubarth.
Bu Jeremy Owen (fl. 1704-1744), awdur Golwg ar y Beiau, yn weinidog Ymneilltuol yn Henllan Amgoed am gyfnod. Yn y llyfr hwnnw ceir ymateb Owen i'r rhwyg yn yr eglwys Bresbyteraidd yn yr ardal a arweiniodd at un o ddadleuon diwinyddol poethaf y 18g, rhwng pleidwyr Uchel ac Isel Calfiniaeth.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Samuel Kurtz (Ceidwadwyr)[1] ac yn Senedd y DU gan Simon Hart (Ceidwadwr).[2]
Cyfeiriadau