Y Gymraeg a'r Saesneg yw dwy brif iaithCymru: Cymraeg yw iaith frodorol y wlad, ac fe'i siaredir gan ryw 19% o'r boblogaeth, ond Saesneg yw iaith y mwyafrif o'r boblogaeth. Mae bron 100% o'r rhai sy'n rhugl yn y Gymraeg yn medru'r Saesneg hefyd. Wenglish yw'r dafodiaith Saesneg a siaredir yng Nghymru.
Mae'r tabl isod yn dangos data Cyfrifiad 2001 ar gyfer gwybodaeth o'r Gymraeg yng Nghymru. Mae'r rhif yn y golofn "Pob person 3 oed a throsodd" yn dynodi holl boblogaeth ardal y rhes honno oedd 3 mlwydd oed a throsodd amser y cyfrifiad; mae'r rhifau yn y colofnau eraill yn dynodi'r canran o'r boblogaeth a nododd dewis y golofn honno.[1]
Ardal
Pob person 3 oed a throsodd
Yn deall Cymraeg llafar yn unig
Yn siarad Cymraeg ond ddim yn ei darllen na’i hysgrifennu
Yn siarad a darllen Cymraeg ond ddim yn ei hysgrifennu
Bu dafodiaith y Roma yng Nghymru, gelwir heddiw yn Romani Cymraeg yn goroesi yn y gogledd hyd at 1950, ac er ei fod yn ffurf ar Romani ac felly o deulu'r ieithoedd Indo-Ariaidd, mae ganddi nifer o fenthyceiriau Cymraeg a Saesneg. Cyfarfu Derek Tipler â charfan o Roma oedd yn medru'r iaith yn Sir Gaernarfon yn 1950. Manfri Wood yw'r siaradwr rhugl olaf yn yr iaith Romani a wyddys amdano yng Nghymru, a bu farw tua 1968.[6]
↑Deddf Iaith Newydd 2008 - Llyfryn Esboniadol. cymdeithas.org. Adalwyd ar 4 Mehefin, 2008. "Credwn fod y tri phennawd yma yn crynhoi’r elfennau y mae’n allweddol i’r Llywodraeth eu cynnwys yn y Gorchymyn, os ydyw o ddifrif ynghylch creu deddfwriaeth effeithiol mewn perthynas â’r Gymraeg, ac adeiladu Cymru ddwyieithog."
↑David Collins a'i 'brain-dead language'. cymdeithas.org. Adalwyd ar 4 Mehefin, 2008. "Our policy is to promote a healthy bilingual Wales where the rights of people to speak Welsh and English are guaranteed. We want to see a bilingual future for Wales."
↑Donald Kenrick, Historical Dictionary of the Gypsies (Romanies) ail argraffiad (Plymouth: Scarecrow Press, 2007), tt. 289–90