Grawnfwyd yw Indrawn, weithiau India corn neu ŷd India (Zea mays L.). Dechreuwyd tyfu'r planhigyn yng Nghanolbarth America, ac wedi i Ewropeaid gyrraedd America yn niwedd y 15fed a dechrau'r 16g, lledaenwyd ef trwy'r byd. Mae'n gnwd eithriadol o bwysig ar gyfandir America; tyfir 270 miliwn tunnell y flwyddyn yn yr Unol Daleithiau yn unig.
Gall dyfu bron mewn unrhyw fan gan gynnwys gwlyptiroedd, coedwigoedd a thwndra. Dofwyd ac addaswyd y planhigyn gan ffermwyr dros y milenia; chwiorydd i'r planhigyn hwn yw: gwenith, barlys, reis ac ŷd.
Mae'n gnwd gweddol gyffredin yng Nghymru, er nad yw'r tywydd yn ddelfrydol iddo.
Gweler hefyd