Llenor Cymraeg ar bynciau crefyddol oedd Jeremy Owen (fl. 1704 - 1744), a gofir fel awdur y gyfrol Golwg ar y Beiau.[1]
Gyrfa
Cafodd ei addysg yn ysgol ei ewythr yn Amwythig. Dilynodd ei dad yn weinidog Ymneilltuol yn Henllan Amgoed, Sir Gaerfyrddin, yn 1711.[1]
Yn 1732-33, cyhoeddodd Golwg ar y Beiau. Yn y llyfr hwnnw ceir ymateb Owen i'r rhwyg yn yr eglwys Bresbyteraidd yn yr ardal a arweiniodd at un o ddadleuon diwinyddol poethaf y 18g, rhwng pleidwyr Uchel ac Isel Calfiniaeth. Ystyrir y llyfr bychan hwn yn glasur o'r cyfnod am "ragoriaeth ei Gymraeg cyhyrog".[1]
Llyfryddiaeth
Testunau
- Golwg ar y Beiau (1732-33)
- Y Ddyledswydd Fawr Efengylaidd o Weddio dros Weinidogion (1733)
Astudiaethau
Ceir ysgrif gan Saunders Lewis ar waith Jeremy Owen yn y gyfrol Meistri'r Canrifoedd (Caerdydd, 1973)
Cyfeiriadau
- ↑ 1.0 1.1 1.2 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru).