Kyūshū (九州, Kyūshū) yw'r fwyaf deheuol o bedair ynys fawr Japan. Gydag arwynebedd o 35,640 km², hi yw trydydd ynys Japan o ran maint. Ystyrir yr ynys yn grud y diwylliant Japaneaidd, ac mae nifer o hen enwau arni, yn cynnwys Kyukoku (九国), Chinzei (鎮西), a Tsukushi-shima (筑紫島). Mae'r boblogaeth yn 13,231,995. Un nodwedd ddiddorol yw fod nifer o drigolion Kyūshū ymysg pobl hynaf y byd, yn cynnwys Shigechiyo Izumi, Kamato Hongō a Yukichi Chuganji.