Dinas yng Nghatalwnia yw L'Hospitalet de Llobregat (Sbaeneg: Hospitalet de Llobregat). Saif yn Nhalaith Barcelona, ar lan afon Llobregat. Gyda phoblogaeth o
253,782 yn 2008, hi yw ail ddinas Catalwnia o ran poblogaeth, ar ôl Barcelona. Mae dwysder y boblogaeth yn 21,174 o drigolion y km sgwar, un o'r ffigyrau uchaf yn Sbaen ac yn Ewrop.
Ymddengys enw gwreiddiol y ddinas, Provençana, yn y 10g. TYfodd y ddinas bresennol o'r 12g ymlaen, o gwmpas eglwys Santa Eulalia de Provençana a'r Hospital de la Torre Blanca. Tyfodd y boblogaeth yn fawr yn y 1960au a'r 1970au, gyda llawer o fewnfudwyr o rannau eraill o Sbaen.