Prifddinas départementVendée, régionPays de la Loire yn Ffrainc yw La Roche-sur-Yon. Mae poblogaeth y ddinas yn 51,124 a phoblogaeth yr ardal ddinesig yn 107,584.
Bu castell La-Roche-sur-Yon ym meddiant y Saeson am gyfnod yn ystod y Rhyfel Can Mlynedd, cyn i Olivier de Clisson ei adfeddiannu. Llosgwyd y castell yn ystod Rhyfel y Vendée, pan wrthryfelodd rhan ogleddol y Vendée yn erbyn y Weriniaeth yn 1793. Cipiwyd La-Roche-sur-Yon gan y gwrthryfelwyr, a dinistriwyd rhan helaeth ohoni. Ar 25 Mai1804, ail-sefydlwyd y ddinas gan Napoleon I, a'i gwnaeth yn brifddinas y Vendée yn lle Fontenay-le-Comte.