Tref arfordirol a chymuned ym mwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Llandudno.[1][2] Mae'n gorwedd ar benrhyn y Creuddyn i'r gogledd o Gonwy a Bae Colwyn. Mae ganddi boblogaeth o tua 25,000. Mae'n gorwedd ar y tir isel sydd rhwng tir mawr gogledd Cymru a Phen y Gogarth Fe'i hadeiladwyd yn bennaf yn y 19g fel cyrchfan gwyliau ac mae ei phensaernïaeth hanesyddol yn enwog. Mae'n un o gyrchfannau twristaidd mwyaf poblogaidd gogledd Cymru. Daw ei henw o blwyf hynafol Sant Tudno. Mae Caerdydd 210 km i ffwrdd o Llandudno ac mae Llundain yn 322 km. Y ddinas agosaf ydy Bangor sy'n 23 km i ffwrdd.
Hanes
Mae'r adeiladau yn y rhan fwyaf o'r dref yn perthyn i'r 19g a'r 20g, ond mae hanes ardal plwyf Llandudno yn cychwyn yn y cyfnod cynhanesyddol. Yn Oes yr Efydd dechreuwyd cloddio am gopr ar y Gogarth a bu diwydiant cloddio copr yn yr ardal hyd at y 19g. Ceir cromlech a meini eraill ar y Gogarth.
Ar ddechrau'r 19g dim ond pentref bychan, yn gartref i bysgotwyr a mwyngloddwyr copr a'u teuluoedd oedd wrth droed y Gogarth. Datblygwyd y tir wastad rhwng y Gogarth a Rhiwledyn yn y 19g a chodwyd nifer o westai crand a thai. Y prif atyniad oedd y ddau draeth braf - Pen Morfa a Thraeth y Gogledd - a'r awyr iach. Tyfodd Llandudno i fod un o brif gyrchfannau gwyliau glan môr Cymru a gwledydd Prydain gyda nifer o'r ymwelwyr yn dod o ogledd-orllewin Lloegr i ddianc o'r dinasoedd am ysbaid, Roedd agor y lein reilffordd yn hwb anferth i'r diwydiant twristaidd ac yn ei anterth byddai rhai miloedd o ymelwyr yn cyrraedd y dref bob dydd yn yr haf.
Gwesty’r Hydro
Codwyd Gwesty Craigside Hydro ar lethrau’r Gogarth Fach tua 1884 ar dir Fferm Bryn y Bia. ‘Roedd y gwesty yn arbenigo ac yn cynnig amrywiaeth o driniaethau meddygol, ac fel yr awgryma’r enw ‘Hydro’, ‘roedd llawer o ddefnydd o ddŵr. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd cymerwyd y gwesty drosodd gan y llywodraeth a symudwyd nifer o weision sifil yno. Yn sicr, roedd yn westy moethus ac ymhlith y bobl fu’n ymweld ‘roedd y Dywysoges Margaret.
Mae’r llun uchaf [1] yn dangos y safle yn ystod y pumdegau, gan gynnwys y gerddi a’r lawntiau ‘crocé’ o flaen y gwesty a’r neuaddau tenis dros y ffordd ger y môr. Ym 1959 penderfynwyd troi’r neuaddau tenis yn theatr gyda’r enw ‘The New Stadium’ a chyflwyno sioeau ar rew. Ar 11 Gorffennaf 1959 agorwyd yr amwynder gyda gorymdaith o’r pier at y theatr gyda bwch gafr a band yn arwain! Byr iawn fu oes y theatr, ac ar ddechrau’r saithdegau dechreuodd Cwmni Hotpoint gynhyrchu peiriannau glanhau a smwddio ar y safle. Yna, cymerwyd y safle gan Gwmni Ceir Automobile Palace oedd â modurdai yng Nghraig y Don, Bae Penrhyn (Y Links), Llanfair Pwll, Llandrindod a lleoedd eraill, i storio ceir. Yna, penderfynwyd gwerthu’r cyfan yn cynnwys y gwesty a’r pafiliwn ac fe ddymchwelwyd y gwesty ym 1974. Prynwyd y safle gan Awdurdod Tir Cymru a’i rannu’n dair safle. Bellach, fel y gwelwch o’r ail lun, tai sydd ar y safle.[3]
Defnyddiwyd y pier am flynyddoedd maith gan gychod stêm, yn mynd i Lerpwl ac Ynys Manaw. Daeth y fath wasanaethau i ben yn 2005.[4]. ond erbyn heddiw mae mordeithiau lleol ar MV Balmoral[5] a PS Waverley[6] yn ystod yr haf.
Tramffordd
Mae'r dramffordd yn rhedeg o orsaf yn rhan uchaf tref Llandudno i'r caffi a gwylfa ar y copa, gyda gorsaf arall hanner ffordd i fyny lle mae'n rhaid i deithwyr newid i dram arall. Tramffordd ffwniciwlar yw hi.[7]
Gwasanaethir Llandudno gan orsaf radio cymunedol Tudno FM, sy'n darlledu yn Saesneg (yn bennaf) ac yn Gymraeg. Y Pentan yw'r papur bro lleol.
Cludiant
Gwasanaethir y dref gan gangen rheilffordd o Gyffordd Llandudno, sy'n rhan o Reilffordd Dyffryn Conwy. Trwy orsaf y Cyffordd ceir gwasanaethau ar lein Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru i gyfeiriad Caergybi i'r gorllewin a dinas Caer i'r dwyrain. Bu Gorsaf reilffordd Llandudno yn un o'r rhai mwyaf crand yng Nghymru ar un adeg, ond mae llawer o'r to haearn bwrw a gwydr wedi ei dynnu i lawr a dim ond rhan sy'n aros heddiw. Adeilad briciau coch a godwyd yn y 19g yw'r orsaf.
Mae Llandudno yn ganolfan gwasanaethau bysiau lleol gyda nifer o wasanaethau yn ei chysylltu â'r trefi a phentrefi lleol. Mae'r rhan fwyaf o'r gwasanaethau hyn yn cael eu rhedeg gan gwmni Arriva Cymru.
David Crighton (1942-2000), mathemategydd a ffisegydd Seisnig a anwyd yn y dref
Harry Thomas, athro, naturiaethwr a dyddiadurwr [2]. Bu’n byw yn Nant y Gamar. Mae elfennau o’i ddyddiaduron Saesneg ar gael yma [3] yn Nhywyddiadur gwefan Llên Natur.
↑"Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.