- Gweler hefyd Pumsaint.
Pentref bychan, chymuned a phlwyf yn Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Llanpumsaint. Fe'i lleolir tua 6 milltir i'r gogledd o dref Caerfyrddin ar groesffordd wledig. Llifa Afon Gwili heibio i'r pentref ac mae Nant Cwm Cerwyn yn ymuno â hi yno. Yn ôl cyfrifiad 2001, mae ganddo boblogaeth o tua 595[1].
Enwir y pentref a'r plwyf ar ôl pum mab Cynyr Farfdrwch o Gynwyl Gaio, un o ddisgynyddion Cunedda Wledig, sef Ceitho, Gwynno, Gwynoro, Celynin a Gwyn.
Mae hefyd yn gartref i'r gymuned Skanda Vale, sef cymuned ysbrydol aml-fydd sydd yn denu nifer fawr o bererinion pob blwyddyn. Cafwyd y gymuned ei sefydlu yn 1973.[2]
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Samuel Kurtz (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Simon Hart (Ceidwadwr).[4]
Hanes
Yn ôl traddodiad bu safle’r eglwys newydd yn safle paganaidd cyn hynny. Ceir pum pwll ar Nant Cwm Cerwyn a enwir ar ôl y saint. Roeddent yn gyrchfa pererindod yn yr Oesoedd Canol, yn arbennig ar Ŵyl Dewi.
Cyfrifiad 2001
Yn ôl cyfrifiad 2001, mae 50% o'r rheini sy'n byw yng nghymuned Llanpumsaint yn medru siarad, darllen, ac ysgrifennu Cymraeg[5]; mae hyn cryn dipyn yn uwch na'r cyfartaledd o 39% dros Sir Gaerfyrddin a gofnodwyd yn yr un cyfrifiad[6].
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[7][8][9][10]
Cyfrifiad 2011 |
|
|
|
Poblogaeth cymuned Llanpumsaint (pob oed) (734) |
|
100% |
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanpumsaint) (383) |
|
53.3% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
19% |
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanpumsaint) (461) |
|
62.8% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
73% |
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed (Llanpumsaint) (85) |
|
29.5% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
67.1% |
Enwogion
Cyfeiriadau
Dolenni allanol