Gorwedd y pentref tua 6 milltir i'r gogledd-orllewin o dref Pontypridd, yn y bryniau rhwng y Rhondda Fach a Chwm Cynon. Mae ffyrdd yn ei gysylltu â Phontypridd i'r de, Penrhiw-ceibr i'r dwyrain a Glynrhedynog i'r gorllewin.
Ceir sawl cyfeiriad at Llanwynno yn hunangofiant Glanffrwd. Anfarwolwyd Llanwynno i'r darllenwyr Saesneg gan Gwyn Thomas, y nofelydd a darlledwr, yn A Few Selected Exits (1968). Ffilmwyd yr hunangofiant hwn fel Selected Exits (1993) yn Llanwynno efo Anthony Hopkins yn chwarae rhan Gwyn.
Claddwyd Guto Nyth Bran yn Eglwys Sant Gwynno, a chynhelir rasys Nos Galan er cof amdano, rasys sy'n gorffen yn 'Sgwar Guto' Aberpennar. Roedd hen blwyf Llanwynno yn cynnwys ar un adeg Abercynon, Penrhiwceiber, Ynysybwl, darnau o Aberpennar a Phontypridd, Porth, Ynyshir a Blaenllechau yn y Rhondda.
Hamdden
Yn Fforest Llanwynno gerllaw mae Canolfan Gweithgareddau Allanol Daerwynno.
Enwogion
Dr Richard Griffiths (1756 - 1826), un o arloeswyr y diwydiant glo yn ardal Cwm Rhondda.
Guto Nyth Brân (1700 - 1737), a gladdwyd ym mynwent eglwys Llanwynno