Mae'r Llyfr Coch Bach, a gyhoeddwyd am y tro cyntaf yn Ionawr 1969, yn ddetholiad o fyfyrdodau a sloganau gan Mao Zedong, arweinydd Plaid Gomiwnyddol Tsieina.
Gellid dadlau fod y Llyfr Bach Coch yn un o'r llyfrau seciwlar mwyaf dylanwadol erioed. Roedd i'w weld ymhob man yn ystod y Chwyldro Diwylliannol yn Tsieina ac yn cael ei dderbyn a'i astudio bron fel Beibl gan y Giardau Chwyldroadol ac eraill.
Ymhlith ei sloganau oedd "Gorchfygwch y Cwn â'u Cynffonau Rhwng eu Coesau Imperialaidd a'i holl lacïaid!" a gawsai ei baentio ar furiau ledled y wlad a'i brintio'n bosteri anferth.
Cafodd ei gyfieithu i nifer o ieithoedd y byd, ond dim i'r Gymraeg.