Llyn yn sir Conwy yw Llyn Geirionydd (weithiau Llyn Geirionnydd). Saif ar ochr ogleddol Coed Gwydyr. Mae bron filltir o hyd, gydag arwynebedd o 45 acer a dyfnder o tua 50 troedfedd yn y man dyfnaf. Llifa Afon Geirionydd o'r llyn i ymuno ag Afon Crafnant.
Gellir cyrraedd ato ar hyd y ffordd o Drefriw heibio pentref Llanrhychwyn, neu o dref Llanrwst. Gellir cerdded o ardal Llyn Crafnant dros Fynydd Deulyn. Ceir maes parcio ger y llyn, ac mae'n gyrchfan boblogaidd i ymwelwyr. Ychydig o bysgod sydd yn y llyn; credir fod llygredd o'r cloddfeydd metel yn y cyffiniau yn parhau.
Llyn Geirionydd yw'r unig lyn yn Eryri lle caniateir cychod modur a sgïo dŵr; mae rhai grwpiau yn ymgyrchu dros gael gwahardd y gweithgareddau yma ar y llyn, gan ddadlau eu bod yn tarfu ar yr heddwch.
Cysylltiadau llenyddol
Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd). Ganed yn Nhrefriw yn 1795, bardd ac emynydd; cymerodd ei enw barddol o enw Afon Geirionnydd yn hytrach na'r llyn.
Ceir traddodiad poblogaidd yng Nghymru sy'n cysylltu'r bardd o'r 6g, Taliesin a Llyn Geirionydd, ond mae'n draddodiad cymharol ddiweddar a dyfodd o gamddarllen llinell yn y gerdd "Anrheg Urien",
Mineu Dalyessin o iawn llyn gerionnyd
a ddehonglwyd fel 'Minnau, Taliesin, o lan Llyn Geirionnydd'. Ond dangosodd Ifor Williams mai iawn-llin ("gwir linach") yw'r darlleniad (mae geirionyd yn hen ffurf ar ceraint).[1]
Pen gogleddol Llyn Geirionydd
Pen deheuol Llyn Geirionydd
Llyfryddiaeth
Jonah Jones, The Lakes of North Wales (Whittet Books, 1987)
Geraint Roberts, The Lakes of Eryri (Gwasg Carreg Gwalch, 1985)
Cyfeiriadau
↑Ifor Williams (gol.), Canu Taliesin (Caerdydd, 1960; argraffiad newydd 1977)