Llyn ar yr Wyddfa yn Eryri yw Llyn Teyrn, hefyd Llyn y Coblynod. Saif ar ochr ddwyreiniol yr Wyddfa yng Nghwm Dyli, fymryn i'r dwyrain o Lyn Llydaw. Mae Llwybr y Mwynwyr i gopa'r Wyddfa yn mynd heibio iddo ychydig ar ôl cychwyn o Pen-y-pass.
Gellir gweld gweddillion barics ar gyfer mwynwyr copr ger glan y llyn. Llyn gweddol fychan ydyw, gydag arwynebedd o 5 acer.
Llyfryddiaeth
- Geraint Roberts, The Lakes of Eryri (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, 1995)