Hen blasdy y ceir ei adfeilion yn sefyll wrth droed Bryn Euryn rhwng Llandrillo-yn-Rhos a Bae Colwyn ym mwrdeisdref sirol Conwy yw Llys Euryn. Mae tair ochr o'r adeilad gwreiddiol yn dal i sefyll, ynghyd â rhannau o'r waliau mewnol, ffenestri, pentan cyfan a hen simnai sy'n codi i 50 troedfedd. Fe'i enwir ar ôl y bryn calchfaen cyfagos.
Ychydig a wyddys am hanes cynnar y plasdy. Credir iddo gael ei losgi yn 1409 yn ystod gwrthyfel Owain Glyndŵr ac iddo gael ei adnewyddu yn fuan wedyn. Mae'r adeilad presennol yn dyddio i'r Oesoedd Canol Diweddar. Hwn yw'r plasdy a fu ym meddiant y Conwyaid, teulu o uchelwyr lleol, hyd 1629 pan gafodd ei werthu i Syr Peter Mutton. Roedd y Conwyaid yn noddwyr beirdd, ac yn eu plith Tudur Aled a Wiliam Llŷn. Cyfeiria'r olaf at Lys Euryn fel
Yn y 19g bu chwarel calchfaen gerllaw, a chodwyd cwt ar gyfyl un o'r waliau oedd yn dal deunydd ffrwydrol. Rhywbryd ceisiodd rhywun neu rywrai chwythu'r hen simnai i fyny, ond er i dwll gael ei wneud yn ochr y pentan mae'r simani'n dal i sefyll. Am y rhan fwyaf o'r 20g esgeuluswyd y safle'n llwyr, a chafodd ei orchuddio gan frysgwydd ac eiddew trwchus.
Ond yn 1998/1999 cafwyd prosiect i adfer y plasdy a'i gadw. Cliriwyd llawer o'r eiddew a'r coed, daeth yr hen bentan anferth a'r waliau mewnol i'r golwg eto, a chafwyd gwared o'r hen gwt chwarel a thrwsio'r twll yn ochr y simnai. Yna rhoddwyd cerrig mân i lawr dros y pridd i atal llystyfiant pellach a chodwyd hysbysfwrdd dwyieithog sy'n esbonio hanes y safle.
Mynediad
Mae'r safle'n agored i'r cyhoedd bob amser. Gellir ei gyrraedd o gyffordd 20 ar yr A55, fymryn cyn cyrraedd Bae Colwyn o gyfeiriad Cyffordd Llandudno a dilyn y ffordd i gyfeiriad Llandrillo. Trowch i Ffordd Rhos wrth y goleuadau traffig i gyrraedd y maes parcio wrth droed Bryn Euryn.