Yn hanesyddol, roedd Loire-Atlantique yn rhan o Lydaw, gyda Naoned yn brifddinas Llydaw. Gwahanwyd hi oddi wrth y gweddill o Lydaw ar 30 Mehefin1941, gan Lywodraeth Vichy. Parhaodd hyn wedi cwymp Vichy, ac yn 1955 gwnaed Loire-Atlantique yn rhan o ranbarth (Région) Pays de la Loire. Mae'r Département gyfoes yn cyfateb bron yn union i hen fro Bro-Naoned, un o naw bro draddodiadol Llydaw.
Mae ymyrch yn parhau i ail-uno Loire-Atlantique a Llydaw, a dangosodd arolwg barn yn 2001 fod 75% o'r bobl a holwyd o blaid hynny.
Yn 1999, roedd y boblogaeth yn 1,134,266. Yn hanesyddol, siaredid Llydaweg yn y rhan orllewinol, a hefyd yn Naoned oherwydd pobl yn symud i mewn i'r ddinas o orllewin Llydaw. Mae Gallo, iaith Romawns, hefyd yn cael ei siarad.