Mae Foel Fenlli yn gopa mynydd ac yn fryngaer a geir ym Mryniau Clwyd yn Sir Ddinbych, Cymru; cyfeiriad grid SJ164600. Fe'i lleolir tua hanner ffordd rhwng Rhuthun a Llanferres uwchlaw Bwlch Pen Barras ar ochr ddwyreiniol Dyffryn Clwyd.
Dosbarthiad
Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 358.5metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.
Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn a Dewey. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghyd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 510.9 metr (1676 tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 20 Tachwedd 2009.
Y fryngaer
Moel Fenlli, Llanbedr Dyffryn Clwyd
Moel Fenlli yw'r fwyaf deheuol o gadwyn o fryngaerau ar gopaon Bryniau Clwyd. Mae'n amgau tua 10ha o dir ar gopa bryn o'r un enw[2] sy'n gwarchod Bwlch Pen Barras, mynedfa amlwg i Ddyffryn Clwyd o'r dwyrain. Ar gopa'r bryn ceir carnedd o Oes yr Efydd.[3]
Dyddia'r amddiffynwaith i gyfnod rhwng y ganrif gyntaf CC a'r 4g OC, fwy neu lai y cyfnod y bu'r Rhufeiniaid yn Ynys Prydain. Lleolir y prif amddiffyniad ar ochrau gogleddol a dwyreiniol y gaer, uwchlaw'r bwlch. Ceir mynedfa gynnar yn y gornel orllewinol ac yn diweddarach yn y gornel de-ddwyreiniol. Ceir olion cytiau crwn tu mewn i'r gaer. Darganfuwyd darnau o briddlestri gwyn a choch, haearn, saethau callestr a gwydr pan gloddiwyd y safle yn 1849. Yn 1816 cafwyd hyd i gelc o dros 1,500 o ddarnau pres Rufeinig, yn dyddio o'r cyfnod 307-360 OC yn bennaf. Darganfyddwyd tua 60 o dai Celtaidd y tu fewn i'r gaer.[4]
Tarddiad yr enw
Mae'r enw'n awgrymiadol. Mae'n bosib y daw o enw'r cawr Cymreig Benlli Gawr y cyfeirir ato weithiau yng ngwaith beirdd yr Oesoedd Canol a gan Nennius yn yr Historia Brittonum. Cyfeiria Cynddelw Brydydd Mawr (12g) at Fenlli Gawr yn ei farwnad i osgordd y Tywysog Madog ap Maredudd o Bowys.[5]
Delweddau
-
Yr olygfa o faes parcio Pen Barras: gwelir y mur allanol yn eglur
-
Y fynedfa i'r gaer, gan edrych i lawr i Ddyffryn Clwyd
-
Y gaer ar y dde, y mur amddiffynnol ar y chwith
-
Yr olygfa o fynedfa'r bryngaer ar Foel Fenlli gan edrych i gyfeiriad Moel Famau
-
Yr olygfa i gyfeiriad y de: Moel Eithinen, Moel Gyw a Moel y Plâs, gyda mynyddoedd y Berwyn yn y cefndir
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
Dolennau allanol