Grŵp mawr o blanhigion blodeuol llysieuol gydag un had-ddeilen yn y hedyn yw'r monocotyledonau (hefyd unhad-ddail neu unhadgibogion). Mae tua 60,000 o rywogaethau ledled y byd,[1] gan gynnwys lilïau, tegeirianau, palmwydd a glaswellt. Fel arfer, mae gan y monocotyledonau ddail di-goes hirgul gyda gwythiennau cyfochrog ac organau blodeuol wedi'u trefnu mewn lluosrifau o dri.[2] Mae'r grŵp yn cynnwys llawer o gnydau pwysig a phlanhigion yr ardd.
Urddau
Mae dosbarthiad y monocotyledonau yn amrywio. Mae'r rhestr isod yn dilyn yr Angiosperm Phylogeny Group.[3]
Urdd
|
Enghreifftiau
|
Acorales
|
gellesgen bêr
|
Alismatales
|
llyriad y dŵr, gwellt y gamlas, llinad y dŵr, pidyn y gog
|
Petrosaviales
|
Dioscoreales
|
iam
|
Pandanales
|
sgriwbinwydden
|
Liliales
|
lili, tiwlip, cwlwm cariad
|
Asparagales
|
merllys, cenhinen, cenhinen Bedr, garlleg, eirlys, tegeirian
|
Comelinidau
|
Teulu Dasypogonaceae (urdd ansicr)
|
Arecales
|
palmwydden
|
Commelinales
|
llysiau'r corryn
|
Poales
|
glaswellt, gwenith, haidd, reis, hesgen, brwynen, bromelia
|
Zingiberales
|
sinsir, banana
|
Cyfeiriadau