Prifddinas talaith Maharashtra yng ngorllewin India a phrif borthladd a chanolfan economaidd India yw Mumbai (Marathi: मुंबई, Mumbaī, IPA:[ˈmumbəi], hen enw hyd at 1995: 'Bombay'). Dyma'r ddinas fwyaf poblog yn India a'r ail ddinas fwyaf poblog yn y byd, gyda phoblogaeth o tua 15,414,288 (2018), ac mae poblogaeth Mumbai Fwyaf (sy'n cynnwys yr ardal fetropolitan cyfagos) oddeutu 22,885,000 (2016)[1][2]. Lleolir Mumbai ar arfordir gorllewinol India a cheir yno harbwr sy'n naturiol ddwfn. Mae Mumbai yn ymdrin â dros hanner cargo morol yr India.
Mae'n borthladd pwysig iawn ac yn ddinas sydd wedi gweld tyfiant economaidd aruthrol yn ystod y degawdau diwethaf; serch hynny anwastad yw dosbarthiad y buddiannau economaidd a nodweddir y ddinas gan gyferbyniaethau trawiadol rhwng y da eu byd a'r tlodion niferus. Yn 2008, enwyd Mumbai yn un o ddinasoedd alpha'r byd.[3][4] Mae ganddi fwy o filiwnyddion a biliwnyddion nag unrhyw ddinas arall yn India gyfan.[5][6]
Mae gan y ddinas nifer o adeiladau bric coch o gyfnod y Raj, e.e. y brif orsaf reilffordd yng nghanol y ddinas. Mae "Porth India", yr heneb a godwyd i nodi ymweliad y brenin Siôr V ym 1911, yn symbol o'r ddinas. Dros y dŵr ym Mae Mumbai mae nifer o henebion Bwdhaidd hynafol i'w cael ar Ynys Elephanta.[7][8]
Mumbai yw prifddinas arian, masnach ac adloniant India.[9] Mae hefyd yn un o ddeg canolfan fasnach orau'r byd o ran llif-arian byd-eang,[10] gan gynhyrchu 6.16% o Gynnyrch Mewnwladol Crynswth (GDP) India[11], ac mae'n cyfrif am 25% o allbwn diwydiannol, 70% o fasnach forwrol India (Ymddiriedolaeth Porthladd Mumbai a JNPT), a 70% o drafodion cyfalaf economi India.[12][13][14]
Geirdarddiad
Mae'r enw Mumbai yn deillio o Mumbā neu Mahā-Ambā - enw'r dduwies Mumbadevi o gymuned frodorol Koli[15]— ac ā'ī sy'n golygu "mam" yn yr iaith Marathi, sef mamiaith pobl Koli ac iaith swyddogol Maharashtra.[16][17]
Fodd bynnag, mae enwau hŷn ar y ddinas, a'r hynaf sy'n hysbys yw 'Kakamuchee' a 'Galajunkja', a ddefnyddir weithiau o hyd.[18][19] Yn 1508, defnyddiodd Gaspar Correia o Bortiwgal yr enw gwneud "Bombaim" yn ei ysgrif Lendas da Índia ("Chwedlau'r India").[20][21]
Hanes
Crynodeb
Yn wreiddiol, roedd y saith ynys sy'n ffurfio Mumbai yn gartref i gymunedau o bobl Koli a oedd yn siarad iaith Marathi.[16][22] Am ganrifoedd, bu'r ynysoedd dan reolaeth ymerodraethau brodorol cyn cael eu goresgyn gan Ymerodraeth Portiwgal ac yna the East India Company (Cwmni Dwyrain India) o Loegr. Yn 1661 priododd Siarl II, brenin Lloegr a'r Alban â Chatrin o Braganza ac fel rhan o'i gwaddol derbyniodd Charles borthladdoedd Tangier a Saith Ynys Bombay.[23] Yn ystod canol y 18g, ail-gynlluniwyd Bombay fel rhan o brosiect Hornby Vellard,[24] a adferodd yr ardal rhwng y saith ynys o'r môr.[25] Ynghyd ag adeiladu priffyrdd a rheilffyrdd, trawsnewidiwyd Bombay gan y prosiect, a gwblhawyd ym 1845, yn borthladd enfawr ar Fôr Arabia. Nodweddwyd Bombay yn y 19g gan ddatblygiadau economaidd ac addysgol. Yn ystod dechrau'r 20g daeth yn sylfaen gref i fudiad annibyniaeth India. Ar annibyniaeth India ym 1947 ymgorfforwyd y ddinas yn Nhalaith Bombay. Yn 1960, yn dilyn Mudiad Samyukta Maharashtra, crëwyd talaith newydd o'r enw Maharashtra, gyda Bombay yn brifddinas arni.[26]
↑"The World According to GaWC 2008". Globalization and World Cities Study Group and Network (GaWC). Prifysgol Loughborough. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 Chwefror 2011. Cyrchwyd 7 Mai 2009.
↑Mukund Kule (8 Hydref 2010). "मुंबईचं श्रद्धास्थान" [Mumba'īcaṁ Shrad'dhāsthān]. Maharashtra Times (yn Marathi). Maharashtra. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Mehefin 2015. Cyrchwyd 16 Mehefin 2015.
↑Munshi, Kanaiyalal M. (1954). Gujarāt and its literature, from early times to 1852. Bharatiya Vidya Bhavan Educational Trust. t. xix. The next immigrants into the islands of Bombay were the Kolis, who on all authorities continued to be their original inhabitants till Aungier founded the city of Bombay. Kathiawad and Central Gujarāt was the home of the Kolis in pre-historic times.
↑"Once Upon a Time in Bombay". Foreign Policy. 24 Mehefin 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Ionawr 2015. Cyrchwyd 22 Chwferor 2012. Check date values in: |access-date= (help)