Ysbryd benywaidd ym Mytholeg Roeg yw nymff. Fe'i cysylltir yn nodweddiadol â lleoliad neu dirffurf penodol. Roedd nymffod eraill, mewn ffurf merched ifanc yn wastad, yn rhan o osgordd duw, megis Dionysus, Hermes, neu Pan, neu dduwies, megis Artemis.[1] Roedd nymffod y targed mynych o satyriaid. Maen nhw'n byw ar fynyddodd ac mewn gwigfaoedd, ar bwys tarddiadau neu afonydd, hefyd mewn coed a chymoedd a grotos oer. Fe'u cysylltir ym fynych â'r uwch dduwdodau (endidau sydd yn uwch na'i hunain, hynny yw), megis Artemis, Apollo, a Dionysus.
Mae'r briodas symbolaidd rhwng nymff a phatriarch, eponym y bobl fel arfer, yn cael ei hailddweud yn ddiddiwedd o fewn mythau tarddiad Groegaidd; benthycodd eu huniad awdurdod i'r brenin hynafol a'i linell.
Mae gan y gair Groegaiddνύμφη yr ystyron o "priodferch" a "gorchuddiwyd" â'i ystyr, ac mai hyn yw tarddiad y gair yn ôl rhai (â'r ddau air, gallwch gynhyrchu "merch ifanc briodaswy"). Mae pobl eraill yn cyfeirio at y gair (a hefyd nubere o Ladin a Knospe o Almaeneg) i darddiad sydd yn mynegi'r syniad o "chwyddo" (yn ôl Hesychius, "blaguryn rhosyn" yw un ystyr o νύμφη).
Addasiadau
Roedd y nymffod Groegaidd yn ysbrydion a rwystrwyd i lefydd, nid fel y genius loci Lladinaidd, a gellid gweld yr anhawster o drosglwyddo eu cwlt yn y myth cymhleth a ddaeth Arethusa i Sisili. Yng ngweithiau'r beirdd Lladinaidd sydd ag addysg Roegaidd, amsugnir y nymffod o dipyn i beth i mewn i'w rhenciau'r duwdodau brodorol Eidalaidd o darddiadau a nentydd (Juturna, Egeria, Carmentis, Fontus), tra gall Lymffaid, duwiesau'r dŵr Eidalaidd, oblegid tebygrwydd damweiniol yr enw, fod wedi'u hadnabod â'r Nymffod Groegaidd. Ymysg y dosbarth llythrennog Rhufeinig, roedd cyfyngiadau ar eu maes dylanwad, ac maen nhw'n dangos braidd yn dduwdodau yn gyfan gwbl o'r elfen ddyfrllyd.
Nymffod diweddar yn llên gwerin Roeg
Mae'r hen gred Roegaidd mewn nymffod wedi goroesi o fewn llawer o ardaloedd y wlad i mewn i'r blynyddoedd cynnar yr 20g, pan gawsant eu galw'n "nereidiaid" fel arfer. Ar y pryd hwnnw, ysgrifennodd John Cuthbert Lawson,
“
Mae'n debygol nad oed dim twll neu bentrefan yng Ngroeg gyfan ble nad yw'r gwragedd o leiaf yn cymryd rhagofalon gofalus yn erbyn lladradau a malais y nereidaid, tra bo llawer o ddynion yn adrodd straeon o'u harddwch, nwyd a mympwy o hyd. Nid yw'n mater o ffydd yn unig chwaith; mwyn nag unwaith yr wyf i wedi bod ym mhentrefi lle'r oedd Nereidaid sicr yn cael eu hadnabod gan olwg i sawl person; a'r oedd yn gytundeb aruthrol ymysg y tystion yn nisgrifiad eu hymddangosiad a gwisg.[2]
”
Arlunio
Mae peintwyr yn hoff o bortreadu nymffod. Ceir llawer o luniau sy'n dangos nymffod yn mynd i nofio, ac mae lluniau o'r dduwies Diana a'i nymffod yn gyffredin.