Baner Oblast Ivanovo.
Lleoliad Oblast Ivanovo yn Rwsia.
Un o oblastau Rwsia yw Oblast Ivanovo (Rwseg : Ива́новская о́бласть, Ivanovskaya oblast ). Ei chanolfan weinyddol yw dinas Ivanovo . Poblogaeth: 1,061,651 (Cyfrifiad 2010).
Y tair dinas fwyaf yw Ivanovo, Kineshma , a Shuya . Mae Plyos yn ganolfan i dwristiaeth. Llifa Afon Volga drwy ran ogleddol yr oblast . Mae'n rhan o ardal weinyddol y Dosbarth Ffederal Canol . Mae Oblast Ivanovo yn rhannu ffin ag Oblast Kostroma (gogledd), Oblast Nizhny Novgorod (dwyrain), Oblast Vladimir (de), ac Oblast Yaroslavl (gorllewin).
Sefydlwyd Oblast Ivanovno yn 1936 yn yr hen Undeb Sofietaidd . Mae mwyafrif llethol y trigolion yn Rwsiaid ethnig.
Dolenni allanol