Ofari, neu wygell (hefyd wyfa; neu hadlestr am blanhigion), yw'r organ mewn bodau benywaidd sy'n cynhyrchu wyau a dillwng hormonau. Mae dau ofari hirgrwn gan fenyw, tua 3 cm wrth 1.5 cm o ran maint.
Mewn dyn, yr organau tebyg yw'r ceilliau. Mae'r term gonad yn cyfeirio at yr ofari neu'r ceilliau.