Fferm hynafol yn Eifionydd, Gwynedd, ydy Penamser sydd wedi rhoi ei henw i'r ffordd sydd yn arwain allan o Borthmadog am Gricieth, ac yn hwyrach, i'r ystad ddiwydiannol a'r Parc Busnes sydd wedi datblygu gerllaw. Lleoli'r y fferm i'r gorllewin o dref Porthmadog ar gyffordd yr A498 a'r A497.
Lleolir Parc Busnes Penamser gerllaw ar y ffordd i Borthmadog, lleolir nifer o fusnesau yma gan gynnwys canolfan dosbarthu'r Post Brenhinol.