Mae Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig[1] (Saesneg: United Kingdom Independence Party neu UKIP) yn blaid wleidyddol sy'n anelu at dynnu'r Deyrnas Unedig allan o'r Undeb Ewropeaidd[2]. Ei hail amcan yw tynhau rheolau mewnfudo i Brydain. Ar 9 Hydref 2014 yn yr is-etholaeth Clacton, Lloegr, etholwyd Douglas Carswell yn Aelod Seneddol cyntaf UKIP.[3] Sicrhaodd UKIP 59.7% o'r bleidlais. Yn Mawrth 2017 gadawodd Carswell y blaid i sefyll fel aelod annibynnol.
Yn yr Etholiad Ewrop 2009 yng Nghymru, daeth UKIP yn bedwaredd gyda 12.8% o'r bleidlais a fwrwyd. John Bufton oedd Aelod Seneddol Ewropeaidd UKIP yng Nghymru o 2009 hyd 2014. Ymddeolodd yn 2014 ac ers hynny Nathan Gill sy'n cynrychioli UKIP dros Gymru. Mae yn byw yn Sir Fôn ond yn wreiddiol o Hull.[8]
Yn Etholiadau Cynulliad Cymru, 2016, cynyddodd canran UKIP o'r pleidlais bron deirgwaith (o 4.7% i 12.5%) ac enillodd y blaid saith sedd rhanbarthol.[9] Gwelwyd cwymp mawr yn y bleidlais UKIP yn etholiad cyffredinol DU yn 2019 yn ogystal ag etholiad i'r Senedd yn 2021 (0 12.5% i 1.6%), gan cholli y saith sedd rhanbarthol.[10]
Yn ôl nifer fe wnaeth y ceidwadwyr cipio pleidleisiau UKIP yn etholiadau lleol 2021.[11]
Cyfeiriadau
↑"UKIP Wales". UKIP Wales. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Gorffennaf 2006. Cyrchwyd 18 Chwefror 2018. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)