Pentref ar Ynys Gybi, Ynys Môn, yw Pontrhydybont ( ynganiad ), hefyd Pont-rhydbont, Pontrhypont ac amrywiadau eraill (Saesneg: Four Mile Bridge). Mae yng nghymunedau'r Fali a Rhoscolyn.
Saif Pontrhydybont lle mae'r ffordd B4545 yn croesi'r culfor rhwng Ynys Môn ac Ynys Gybi. Ar un adeg, rhyd oedd yma, a chyn adeiladu'r A5, dyma'r brif fan lle gellid croesi i Ynys Gybi.
Mae'r enw 'pont rhyd y bont' wedi fathu gan ei fod bedair milltir o Gaergybi. Mae'r bont yn 120 metr (390 tr) o hyd ac yn cario ffordd y B4545 dros afon Cymyran. Cafodd y bont ei chreu yn 1530 a hi oedd yr unig fodd o groesi i Ynys Cybi; fe'i codwyd gan weithwyr yr Arglawdd Stanley yn 1823.