Un o ddwy gerdd epig fawr India yw'r Ramayana; y llall yw'r Mahabharata. Mae'n cynnwys dros 24,000 o benillion, tua 480,000 gair i gyd, mewn saith llyfr:
Mae'r gerdd o bwysigrwydd mawr yn niwylliant India ac yn un o weithiau pwysicaf Hindŵaeth. Yn draddodiadol, enwir yr awdur fel Valmiki.
Yr arwr yw Rama, mab hynaf Dasharatha, brenin Ayodhya, ond hefyd yn ymgnawdoliad o'r duw Vishnu. Cipir ei wraig, Sita, sy'n ymgnawdoliad o'r dduwies Laxmi, gan yr ellyll Ravana, a'i charcharu ar ynys Lanca (Sri Lanca). Gyda chymorth Hanuman a'i fwncïod, llwydda Rama i'w hachub.
Cyfansoddwyd y fersiynau cynharaf yn Sansgrit. Yn ddiweddarach cafwyd fersiynau Hindi hefyd: yr enwocaf o'r rhain yw'r fersiwn gan Tulsidas (Tulasidasa) (tua 1527-1623), sydd wedi ennill ei blwyf fel clasur.