Mewn mathemateg, rhifau Fibonacci yw'r rhifau yn y dilyniant cyfanrifol sy'n cael ei alw'n ddilyniant Fibonacci, ac sydd wedi'u nodweddu gan y ffaith bod pob rhif ar ôl y ddau gyntaf yn gyfanswm y ddau sydd o'i flaen:[2][3]
Yn aml, yn enwedig mewn defnydd modern, mae'r dilyniant yn cael ei ymestyn gan un term cychwynnol arall:
Hynny yw, y ddau rif cyntaf yn nilyniant Fibonacci yw naill ai 0 ac 1 neu 1 ac 1, yn dibynnu ble mae'r dilyniant yn dechrau, gan fod pob rhif yn gyfanswm y ddau o'i flaen.
Mae dilyniant Fn rhifau Fibonacci numbers wedi'i ddiffinio gan yr hafaliad canlynol:
Mae'n ymddangos bod rhifau Fibonacci wedi ymddangos gyntaf o gwmpas 200 CC yng ngwaith Pingala wrth gyfri patrymau posibl mewn barddoniaeth oedd wedi'i chyfansoddi o sillafau o ddau hyd. Fodd bynnag, mae dilyniant Fibonacci wedi'i enwi ar ôl y mathemategydd Eidalaidd Leonardo o Pisa, a oedd yn cael ei adnabod fel Fibonacci. Cyflwynodd ei lyfr Liber Abaci (1202) y dilyniant i fathemateg Ewrop Orllewinol,[6] er bod y dilyniant wedi'i ddisgrifio yn gynharach mewn mathemateg Indiaidd. Roedd y dilyniant oedd wedi'i ddisgrifio yn Liber Abaci yn dechrau gyda F1 = 1. Trafodwyd rhifau Fibonacci yn ddiweddarach gan Johannes Kepler mewn cysylltiad a'i amcangyfrifon perthnasol i'r pentagon yn 1611. Mae eu perthynas fathemategol i'w weld wedi'i ddeall o ddechrau'r 17g, ond yn y degawdau diwethaf yn unig y maen nhw wedi'u trafod yn eang.[7]
Mae rhifau Fibonacci yn ymddangos yn annisgwyl mewn mathemateg. Yn wir, mae cylchgrawn cyfan, Fibonacci Quarterly, i'w gael ar gyfer eu hastudiaeth. Maen nhw hefyd yn ymddangos ym maes bioleg,[8] ym mhatrwm tyfiant coed canghennog, phyllotaxis (sef trefniant y dail ar y coesyn), blagur ffrwyth ar binafal,[9] ar flodyn marchysgallen, ar redynen ac yn nhrefniant bractau moch coed.[10]