Gwrthdaro arfog ym Mheriw a ymleddir ers 1980 rhwng herwfilwyr comiwnyddol a'r llywodraeth yw Rhyfel Cartref Periw (Sbaeneg: conflicto armado interno del Perú, sef "gwrthdaro arfog mewnol Periw") a elwir hefyd y cyfnod o derfysgaeth (la época del terrorismo). Lansiwyd gwrthryfel gan y Sendero luminoso ("Llwybr Disglair") ym Mai 1980, gyda'r nod o ysgogi chwyldro a sefydlu gwladwriaeth sosialaidd, ac ym 1984 ymunodd Mudiad Chwyldroadol Túpac Amaru (MRTA) â'r ffrae. Chwalwyd yr MRTA ym 1997, ac enciliodd y Sendero luminoso erbyn diwedd 2000. Ailgynnwyd y rhyfel, ar raddfa isel, yn 2002.
Sefydlwyd y Sendero luminoso gan yr academydd Abimael Guzmán ym 1969, fel plaid gomiwnyddol i hyrwyddo Pensamiento Gonzalo ("Meddwl Gonzalo"), sef ffurf Guzmán ar Farcsiaeth–Leniniaeth–Maoaeth. Treuliodd Guzmán y 1970au yn ddatblygu'r mudiad i fod yn fyddin herwfilwrol yn ogystal â charfan wleidyddol, ac aeth gyda'i ddilynwyr, y Senderistas, ar herw yn y cefn gwlad. Cyhoeddwyd dechrau'r gwrthryfel yn ystod etholiad cyffredinol Mai 1980, ac un o weithredoedd cychwynnol y Senderistas oedd llosgi blychau pleidleisio. Ymhen fawr o dro, llwyddasai Sendero luminoso i gipio rhannau mawr o diriogaeth Periw, a throdd yn wrthdaro gwaedlyd gan gynnwys terfysgaeth yn erbyn y bobl gan y Senderistas a lluoedd diogelwch y llywodraeth. Ar y cychwyn cafodd Guzmán gefnogaeth nifer o'r gwerinwyr, am iddo ddisodli a lladd nifer o swyddogion llygredig a gormesol. Yn y pen draw, trodd trwch y boblogaeth yn erbyn Sendero luminoso wrth i Guzmán orfodi trefn biwritanaidd newydd yn ei diriogaeth, gan gynnwys dirwest gorfodol.
Cafwyd hyd i Guzmán gan lu gwrth-derfysgaeth ym 1992, a fe'i olynwyd yn arweinydd y Sendero luminoso gan Óscar Ramírez. Ym 1992 hefyd daliwyd Victor Polay Campos, arweinydd yr MRTA. Yn Rhagfyr 1996 cymerwyd cannoedd o bobl yn wystlon gan yr MRTA ym mhreswylfa llysgennad Japan i Beriw. Daeth yr argyfwng i ben yn Ebrill 1997 yn sgil cyrch gan y lluoedd arfog i achub y gwystlon, a diddymwyd yr MRTA. Cafodd Ramírez ei arestio ym 1999, ac enciliodd olion y Sendero luminoso i Ddyffryn Afonydd Apurímac, Ene a Mantaro (VRAEM). Bu cyfnod o heddwch i raddau nes i'r Senderistas ailddechrau'r gwrthryfel yn 2002. Mae un o ôl-garfanau'r Senderistas yn parhau'n weithgar mewn jyngl yng nghanolbarth Periw, ac yn ymwneud yn bennaf â'r fasnach gyffuriau.[1]
Cyfeiriadau